Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ar ffordd yn Sir Gâr

Car Heddlu

Mae dau berson wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gaerfyrddin.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gar ar ffordd y B4308 rhwng Cydweli a Thrimsaran cyn 14:30 ddydd Llun.

Roedd yn rhaid i'r Gwasanaeth tân ddefnyddio offer arbennig fel bod modd i un person ddod allan o un o'r cerbydau.

Cafodd yr Heddlu a'r gwasanaeth Ambiwlans eu galw i'r digwyddiad hefyd.