David Jones yn colli ei le yn Llywodraeth Theresa May

  • 12 Mehefin 2017
David Jones
Image caption Roedd David Jones AS yn ymgyrchu i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd cyn y refferendwm y llynedd.

Mae'r Aelod Seneddol dros Orllewin Clwyd, David Jones wedi colli ei le fel Gweinidog Gwladol dros adael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Roedd Mr Jones yn ymgyrchu i Brydain adael yr UE cyn y refferendwm y llynedd.

Wrth gael ei holi gan y BBC ddydd Gwener dywedodd cyn ysgrifennydd Cymru, Mr Jones mai Mrs May yw'r "arweinydd gorau sydd gan y Torïaid ar hyn o bryd".

Y Farwnes Anelay sydd wedi cymryd ei le fel Gweinidog Gwladol dros adael y UE wrth i'r Prif Weinidog Theresa May roi trefn ar ei chabinet newydd.

Straeon perthnasol