Hunllefau'r môr tawel

samoa Image copyright Getty Images

Yr haf yma mae tîm rygbi cenedlaethol Cymru ar daith i dde'r cefnfor tawel, ac yn wynebu Tonga ar 16 Mehefin a Samoa ar 23 Mehefin.

Maen nhw'n gemau lle mae disgwyl i Gymru ennill fel rheol, ond mae'r cewri o'r ynysoedd wedi rhoi gemau anodd iawn i Gymru dros y blynyddoedd.

Bu Cymru Fyw yn edrych 'nôl ar hanes hunllefau'r môr tawel:


Tonga 7 - 15 Cymru. Stadiwm Teufaiva, Nukuʻalofa, Tonga. 12 Mehefin, 1986

Hon oedd y gêm gyntaf i Gymru chwarae'n erbyn gwlad o dde'r cefnfor tawel. Er i Gymru ennill, mae'r gêm wedi aros yn y cof yn bennaf oherwydd yr ymladd.

Roedd gan Tonga ddyn caled o'r enw Tevita Bloomfield yn chwarae yn safle'r prop. Yn ôl y sôn bu'n ymladd gyda thri o chwaraewyr Cymru ar yr un pryd - Stuart Evans, Billy James ac Adrian Hadley, gan adael Hadley yn anymwybodol.

Fe redodd Bloomfield ar ôl Bleddyn Bowen i mewn i'r eisteddle, cyn i'r canolwr gael ei daflu yn ôl i'r cae gan y dorf.

Image copyright Getty Images
Image caption Phil Davies yn chwarae yn erbyn Tonga yn Nghwpan y Byd, 1987. Dydi Tonga heb guro Cymru mewn saith cynnig, er bod amryw o'r gemau wedi bod yn agos

Cymru 13 - 16 Gorllewin Samoa. Parc Yr Arfau, Caerdydd. 6 Hydref, 1991

Fe gollodd Cymru yn erbyn Gorllewin Samoa yng Nghwpan y Byd 1991. Roedd tîm Cymru'n cynnwys chwaraewyr adnabyddus fel Scott Gibbs, Mark Ring, Robert Jones ac Emyr Lewis.

Yn dilyn y golled fe enillodd Cymru yn erbyn Yr Ariannin cyn cael cweir gan Awstralia 38-3 yn eu gêm olaf o'r grŵp, a olygai nad oedd Cymru am gyrraedd y chwarteri.

Image copyright Getty Images
Image caption Frank Bunce yn cael ei daclo gan Mark Ring, Parc yr Arfau, 1991

Gorllewin Samoa 34 - 9 Cymru. Moamoa, Gorllewin Samoa. 6 Mehefin, 1994

Ieuan Evans oedd y capten pan gollodd Cymru yn Samoa ar y daith yn 1994, gyda Rupert Moon a Scott Quinnell hefyd yn dechrau dros Gymru. Yn yr amodau anodd a phoeth yn Moamoa, tair cic gosb gan Neil Jenkins oedd unig bwyntiau'r Cymry.

Cafodd yr asgellwr Brian Lima ddau gais dros Samoa, gyda'r wythwr medrus Pat Lam hefyd yn cael cais. Roedd gan Lima y ffugenw 'The Chiropractor' oherwydd ei daclo ffyrnig a oedd, yn ôl rhai, yn gallu ailosod esgyrn y gwrthwynebwyr.

Image copyright Getty Images
Image caption Asgellwr Llanelli, Ieuan Evans, oedd y capten ar y daith i dde'r cefnfor tawel yn 1994. Cafodd 72 cap dros Gymru, gan sgorio 33 cais

Cymru 31 - 38 Samoa. Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. 10 Hydref, 1999

Er i Orllewin Samoa gael ei ailenwi yn 'Samoa' yn 1997, yr un hen stori oedd hi rhwng y ddwy wlad wrth i Gymru golli yn eu herbyn am y trydydd tro yn olynol.

Roedd hon yn ddiwrnod arbennig i Neil Jenkins gan iddo gael yr anrhydedd o fod y prif sgoriwr yn hanes rygbi rhyngwladol yn ystod y gêm - ond doedd hyd yn oed hynny ddim yn ddigon i guro'r Samoaid.

Roedd gan Gymru mwy neu lai'r un garfan a gurodd Lloegr, De Affrica a Ffrainc yn yr un flwyddyn, ac felly roedd y golled yn erbyn Samoa yn un annisgwyl.

Image copyright Getty Images
Image caption Canolwr Samoa, yr enwog Va'aiga Tuigamala, yn rhedeg mewn i Mark Taylor

Fiji 38 - 34 Cymru. Stade de la Beaujoire, Nantes, Ffrainc. 29 Medi, 2007

Yn ystod y Cwpan y Byd yn Ffrainc yn 2007 tro Fiji oedd hi i gicio Cymru allan o'r gystadleuaeth. Er i Gymru sgorio pum cais i gymharu â phedwar Fiji, gan gynnwys un arbennig gan Shane Williams, doedd hynny ddim yn ddigon i ennill yn Nantes.

Fe gollodd Gareth Jenkins ei swydd fel prif hyfforddwr yn dilyn y golled. Cymrodd Nigel Davies drosodd i hyfforddi Cymru am un gêm, cyn i Warren Gatland gymryd yr awenau - lle mae'n parhau hyd heddiw.

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Cymru wedi chwarae Fiji 11 gwaith, gan ennill naw, colli un ac cael un gêm gyfartal

Cymru 16 - 16 Fiji. Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. 19 Tachwedd, 2010

Cic gosb yn y funud olaf gan Seremaia Bai hawliodd gêm gyfartal i'r ynyswyr yng Nghaerdydd yn 2012. Cais gosb oedd yr unig dro i Gymru groesi'r llinell, gyda Vulivuli yn sgorio i Fiji.

Roedd gan Gymru chwaraewyr ifanc yn y garfan gyda George North yn dechrau a Taulupe Faletau ar y fainc.

Image copyright Getty Images
Image caption Y blaenasgellwr Dan Lydiate yn cael gafael ar Michael Tagicakibau, a aeth mlaen i chwarae dros Lanelli a'r Scarlets

Cymru 19 - 26 Samoa. Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd. 16 Tachwedd, 2012

Fe enillodd Samoa yn erbyn Cymru y tro diwethaf i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd. Sgoriodd Samoa dri chais, lle sgoriodd y Cymry un, a hynny oherwydd i Ashley Beck ryng-gipio a rhedeg hyd y cae.

Rob Howley oedd y prif hyfforddwr dros dro ar y pryd, a hon oedd y bumed golled o'r bron i'r dynion mewn coch. Roedd pŵer y Samoaid yn ymddangos yn ormod i Gymru'r noson honno.

Image copyright Getty Images
Image caption Samoa sydd â'r record orau yn erbyn Cymru, gan ennill bedair gwaith, gyda Chymru'n ennill pump