Highlanders 23-22 Y Llewod

  • 13 Mehefin 2017
Llewod Image copyright Getty Images
Image caption Roedd cais Sam Warburton yn hwb i'w obeithion personol ef o ddechrau'r prawf cyntaf

Cafodd Y Llewod eu trechu am yr ail waith ar eu taith yn Seland Newydd wrth i'r Highlanders ennill gêm gyffrous yn Dunedin o un pwynt.

Roedd y mewnwr Rhys Webb yn credu iddo sgorio cais cyntaf y gêm i'r Llewod ond i'r dyfarnwr cynorthwyol benderfynu ei fod wedi colli rheolaeth ar y bêl cyn tirio.

Bu'n rhaid i'r ymwelwyr setlo felly am gic gosb gan Dan Biggar am eu pwyntiau cyntaf y gêm.

Yr Highlanders sgoriodd cais cynta'r gêm wrth i'r asgellwr Waisake Naholo groesi'r gwyngalch wedi cyfnod o bwysau gan y tîm cartref.

Ond fe wnaeth y canolwr Jonathan Joseph daro 'nôl i'r ymwelwyr ar ddiwedd yr hanner cyntaf i'w gwneud yn gyfartal, 10-10 ar yr egwyl.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Gohebydd rygbi BBC Cymru, Gareth Charles sy'n rhannu ei farn ar berfformiad Y Llewod

Cafodd Y Llewod ddechrau da i'r ail hanner wrth i'r Albanwr Tommy Seymour gasglu cic gan y tîm cartref i groesi am gais heb unrhyw wrthwynebiad.

Y capten, Sam Warburton oedd y nesaf i sgorio wrth iddo wthio ei ffordd at y llinell gais yn bwerus, gan roi hwb i'w obeithion personol o ddechrau'r prawf cyntaf ymhen wythnos a hanner.

Ond fe wnaeth yr Highlanders daro 'nôl trwy'r bachwr Liam Coltman i'w cael yn ôl o fewn dau bwynt i'r Llewod gydag ugain munud yn weddill.

Fe ddaeth y pwyntiau allweddol gydag ychydig dros bum munud i fynd, gyda'r tîm cartref yn mynd ar y blaen wrth i ddiffyg disgyblaeth Y Llewod roi cyfle i Marty Banks sicrhau thriphwynt o gic gosb.

Er i'r Llewod ennill cic gosb yn y munudau olaf, fe ddaeth cic Elliot Daly o bron i 60 metr ychydig yn fyr o'r pyst.

Er y canlyniad, fe wnaeth y tri Chymro oedd yn dechrau'r gêm - Webb, Biggar a Warburton - greu argraff, a bu'n rhaid i'r ddau ar y fainc - Ken Owens ac Alun Wyn Jones - ddod ymlaen yn gynt na'r disgwyl, yn yr hanner cyntaf, oherwydd anafiadau.

Image copyright Getty Images
Image caption Y canolwr Jonathan Joseph sgoriodd unig gais Y Llewod yn yr hanner cyntaf

Straeon perthnasol