Gwers o'r hen ogledd

Dyma gwestiwn bach i chi. Eiddo pwy yw'r dyfyniad isod? Pwy sydd mor uchel ei gloch ynghylch annibyniaeth yr Alban a phwysigrwydd ei chenedligrwydd?

"The whole process of nationalisation is of course especially detrimental and offensive to Scotland. It affects not only its prosperity but the independence that Scotland has exercised in so many fields. No sharper challenge could be given to Scottish nationalist sentiments than is now launched by the socialism of Whitehall".

Yr ateb yw Winston Churchill ac fe wnaeth y sylw mewn araith yn Ibrox, o bobman, yn 1949.

Doedd hi ddim yn anarferol i Geidwadwyr ddefnyddio ieithwedd felly wrth drafod yr Alban yn y dyddiau hynny. Yn wir, 'cenedlaetholdeb unoliaethol' oedd hanfod apêl y Ceidwadwyr Albanaidd yn ystod y 40au a'r 50au - y syniad mai hi oedd y blaid y byddai'n amddiffyn yr Alban rhag tueddiadau'r Blaid Lafur i ganoli grym yn Llundain.

Cymaint oedd apêl y neges honno nes i'r Torïaid sicrhau 50.1% o'r bleidlais Albanaidd yn etholiad 1955, record sy'n sefyll hyd heddiw. Dim ond yr SNP yn 2015 sydd wedi dod yn agos at ei thorri.

Mae'n rhyfedd braidd na cheisiodd un o'r pleidiau unoliaethol yn yr Alban saernïo neges o'r fath tan i'r Torïaid wneud hynny yn yr etholiad diweddar. Wedi'r cyfan, dyma'r union strategaeth sydd wedi ei defnyddio gan y blaid Lafur yng Nghymru ers 2003, un sydd wedi profi'n hynod broffidiol. Fe brofodd hi'n effeithiol i Ruth Davidson hefyd!

Cymharwch hynny ac ymgyrch diweddar Ceidwadwyr Cymru gyda'r pwyslais cyson ar 'weithio trawsffiniol', 'dog whistle' gwrth ddatganoli yn ôl rhai a'r paragraff yma yn y maniffesto Cymreig yn addo marcio gwaith cartref y cynulliad.

"Yn y gorffennol, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi tueddu i 'ddatganoli ac anghofio'. Bydd y llywodraeth Geidwadol hon yn unioni hynny. Rydym am i Lywodraeth y DU fod yn gyfrwng i gyflawni pethau da drwy'r wlad gyfan"

Does 'na ddim llawer o 'genedlaetholdeb unoliaethol' i'w weld yn fanna ac yn ôl Andrew RT Davies heddiw, fe dalodd Ceidwadwyr Cymru bris am ymgyrch "London-centric" yn y canlyniadau nos Iau.

Mae Mr Davies yn awr yn galw am gryfhau statws y blaid Gymreig er mwyn ei gosod ar seiliau tebyg i Geidwadwyr yr Alban a Llafur Cymru.

A fydd hynny'n digwydd? Peidiwch dal eich anadl.