'Yr un hen stori i'r Llewod'
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Y Llewod: 'Yr un hen stori yn Dunedin'

13 Mehefin 2017 Diweddarwyd 14:51 BST

Cafodd Y Llewod eu trechu am yr ail waith ar eu taith yn Seland Newydd wrth i'r Highlanders ennill gêm gyffrous yn Dunedin o un pwynt.

Gohebydd rygbi BBC Cymru, Gareth Charles sy'n rhannu ei farn ar berfformiad Y Llewod, gan dalu sylw penodol i obeithion y Cymry i ddechrau'r prawf cyntaf ymhen wythnos a hanner.

Yn ei farn ef, Y Llewod oedd y tîm gorau ond doedden nhw ddim yn ddigon clinigol ar yr adegau pwysig.