Plaid a'r Ceidwadwyr yng nghabinet Cyngor Conwy

  • 13 Mehefin 2017
Cyngor Conwy Image copyright Meirion/Geograph

Mae cabinet o gynghorwyr Plaid Cymru, Ceidwadol ac annibynnol wedi'u penodi yng Nghonwy.

Mae'r glymblaid yn dal angen cymeradwyaeth gan bwyllgor gwaith cenedlaethol Plaid Cymru.

Dywedodd arweinydd y cyngor, cyn-AC Plaid Cymru Gareth Jones, y byddai'n arwain "weinyddiaeth barhaus, agored yn seiliedig ar gynwysoldeb a thryloywder".

Roedd pob plaid wedi cael cynnig ymuno â'r cabinet ond fe wnaeth aelodau Llafur wrthod.

'Dim rhaglen wleidyddol'

Mae'r cabinet yn cynnwys pedwar cynghorydd Plaid Cymru, pump Ceidwadol ac un annibynnol.

"Ni fydd y cabinet newydd yn cael ei arwain gan unrhyw raglen wleidyddol," meddai Mr Jones.

Image copyright Cyngor Conwy
Image caption Dywedodd Gareth Jones ei fod yn "ymddiheuro na fedrais gyhoeddi yr aelodaeth ynghynt"

Ychwanegodd: "Bydd rhaid i'r drefn arfaethedig gael ei chefnogi gan Blaid Cymru yn lleol ac yn genedlaethol.

"Rwyf wedi cyfeirio'r datganiadau'r cynigion yma at weithgor cenedlaethol y blaid ac yr wyf yn disgwyl eu penderfyniad.

"Yn y cyfamser rwyf yn penodi aelodau i'r cabinet fel y medrwn symud ymlaen gyda busnes pwysig y cyngor."

Straeon perthnasol