Dyn 92 oed wedi marw ar ôl gwrthdrawiad yng Nghaergybi

Caergybi Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y gyffordd rhwng Stryd Wian a Ffordd Llundain

Mae dyn 92 oed wedi marw yn yr ysbyty 10 diwrnod wedi iddo gael ei daro gan gar yng Nghaergybi.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng y dyn a char Vauxhall Insignia du ar y gyffordd rhwng Stryd Wian a Ffordd Llundain ychydig cyn 12:30 ddydd Sadwrn, 3 Mehefin.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor cyn cael ei drosglwyddo i ysbyty arbenigol yn Stoke oherwydd ei gyflwr.

Bu farw'r dyn, oedd yn lleol i ardal y gwrthdrawiad, yn yr ysbyty ddydd Mawrth.

Mae'r heddlu wedi adnewyddu eu hapêl am dystion, neu unrhyw un sydd â mwy o wybodaeth am y digwyddiad.