Whittingham yn gadael Caerdydd ar ôl degawd

  • 13 Mehefin 2017
Peter Whittingham
Image caption Fe wnaeth Whittingham chwarae 450 o gemau i Gaerdydd dros gyfnod o 10 mlynedd

Mae'r chwaraewr canol cae Peter Whittingham wedi gadael clwb pêl-droed Caerdydd.

Fe wnaeth Whittingham, sy'n 32 oed, wrthod cytundeb newydd gyda'r Adar Gleision wedi'i i'w gytundeb bresennol ddod i ben.

Mae bellach wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Blackburn Rovers a ddisgynodd o'r Bencampwriaeth i'r adran gyntaf ar ddiwedd y tymor.

Fe wnaeth Whittingham chwarae 450 o gemau i Gaerdydd dros gyfnod o 10 mlynedd.

Dywedodd Whittingham mewn datganiad ar wefan swyddogol Caerdydd: "Dwi wedi cael degawd anhygoel gyda Chaerdydd, wedi cyrraedd nifer o rowndiau terfynol yr oeddwn byth yn credu y gallwn gyrraedd, ennill dyrchafiad a chwarae nifer o gemau i'r clwb arbennig yma.

"Mae'n amser am sialens newydd. Dwi ddim yn un o'r chwaraewyr hynny sy'n fodlon ymarfer drwy'r wythnos ac eistedd yn gwylio gemau.

"Rwyf eisiau chwarae cymaint o gemau a sy'n bosib. Ar y pwynt yma yn fy ngyrfa dwi'n credu y galla i wneud hynny gyda'r symudiad yma," meddai.