Tri chap newydd yn nhîm Cymru i wynebu Tonga

Thomas Young Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Thomas Young yn ennill ei gap cyntaf i Gymru yn erbyn Tonga

Fe fydd tri chwaraewr yn ennill eu capiau cyntaf i dîm rygbi Cymru yn erbyn Tonga ddydd Gwener.

Bydd Steff Evans, Seb Davies a Thomas Young yn dechrau'r gêm yn Auckland.

Fe allai chwe chwaraewr arall ennill eu capiau cyntaf i'w gwlad oddi ar y fainc.

Bydd Sam Davies o'r Gweilch yn dechrau'r gêm fel maswr, a Gareth Anscombe o'r Gleision fel cefnwr.

Dywedodd Robin McBryde, sydd wedi cymryd yr awenau tra bod Warren Gatland a Rob Howley gyda thîm y Llewod: "Mae'n gyfle unwaith mewn bywyd i'r chwaraewyr gymryd rhan yn y gêm yma yn Eden Park, a dwi'n disgwyl iddyn nhw wneud y mwyaf o'r cyfle."

Yn dilyn y gêm yn erbyn Tonga fe fydd Cymru yn wynebu Samoa ar 23 Mehefin.

Timau yn llawn:

Tonga: Dave Halaifonua; Nafi Tuitavake, Siale Piutau (capt), Vili Tahitua, Cooper Vuna; Latiume Fosita, Tane Takulua; Latu Talakai, Paula Ngauamo, Ben Tameifuna, Leva Fifita, Steve Mafi, Dan Faleafa, Nili Latu, Valentino Mapapalangi.

Eilyddion: Suliasi Taufalele, Sila Puafisi, Phil Kite, Sione Tau, Mike Faleafa, Leon Fukofuka, Kali Hala, Kiti Taimani.

Cymru: Gareth Anscombe (Gleision); Alex Cuthbert (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Jamie Roberts (Harlequins, capt), Steffan Evans (Scarlets); Sam Davies (Gweilch), Gareth Davies (Scarlets); Nicky Smith (Gweilch), Kristian Dacey (Gleision), Tomas Francis (Exeter Chiefs), Seb Davies (Gleision), Cory Hill (Dreigiau), Aaron Shingler (Scarlets), Thomas Young (Wasps), Josh Navidi (Gleision).

Eilyddion: Ryan Elias (Scarlets), Wyn Jones (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision), Ellis Jenkins (Gleision), Ollie Griffiths (Dreigiau), Aled Davies (Scarlets), Owen Williams (Gloucester), Cory Allen (Gweilch).