Abertawe i ddechrau'r tymor oddi cartref yn Southampton

  • 14 Mehefin 2017
Abertawe Image copyright Getty Images
Image caption Bydd Abertawe yn teithio i Southampton ar gyfer eu gêm gyntaf yn y tymor newydd

Mae rhestr gemau Abertawe ar gyfer y tymor nesaf wedi cael ei rhyddhau.

Bydd yr Elyrch yn teithio oddi cartref i Southampton ar ddiwrnod cyntaf y tymor, ar 12 Awst, cyn herio Manchester United yn eu gêm gartref gyntaf yr wythnos ganlynol.

Abertawe ydi'r tîm fydd yn gorfod teithio bellaf o holl glybiau Uwch Gynghrair Lloegr ar ddiwrnod San Steffan, wrth iddyn nhw wynebu Lerpwl yn Anfield.

Fe allen nhw hefyd wynebu diwedd heriol i'r tymor, gyda Manchester United, Everton, Manchester City a Chelsea i gyd ymysg eu gwrthwynebwyr yn ystod y saith gêm olaf.

Bydd y tymor yn gorffen ar 13 Mai gyda gêm gartref yn erbyn Stoke City.