Beth sy'n digwydd i'r gwenyn?

Wil Griffiths Image copyright Wil Griffiths
Image caption Wil Griffiths yw awdur y llyfr Dyn y Mêl ac mae ganddo 60 mlynedd o brofiad o gadw gwenyn

Mae un o wenynwyr mwyaf profiadol Cymru yn rhybuddio y gallai diwedd y wenynen fêl fod yn nes nag roedd yn ei feddwl.

Mae'r dirywiad enfawr ym mhoblogaeth gwenyn mêl y byd dros y blynyddoedd diweddar yn bryder mawr i wyddonwyr, amgylcheddwyr a chynhyrchwyr bwyd.

Mewn llythyr yng nghylchlythyr Cymdeithas Gwenynwyr Cymru mae Wil Griffiths o Aberystwyth yn dweud ei fod wedi sylwi ar broblem newydd yn ei gychod gwenyn - mae'r brenhinesau naill ai ddim yn dodwy wyau'n iawn neu'n diflannu cyn dodwy gwenyn newydd.

Yr un yw'r stori ymhlith cadwyr gwenyn eraill y cylch meddai awdur Dyn y Mêl sy'n ysgrifennydd Cymdeithas Gwenynwyr Cymraeg Ceredigion ac wedi bod yn cadw gwenyn a chynhyrchu mêl ers bron i 60 mlynedd.

Bu'n dweud wrth Cymru Fyw sut mae'n gweld y sefyllfa yng Nghymru:


Iechyd y gwenyn

Ro'n i'n rhedeg tua 80 o gychod gwenyn ar ôl ymddeol ond erbyn hyn mae lawr i saith neu wyth.

Mae 'na nifer fawr o afiechydon ymhlith gwenyn ac maen nhw'n lledu'n gyflym dros ben achos bod nhw'n byw gymaint ar ben ei gilydd.

Yn y blynyddoedd cynnar o'n i ddim yn cael problemau mawr gyda rhain - nes dechre'r 1990au pan ddaeth y paraseit Varroa i'r wlad. Mae hwnnw wedi chwyldroi'r grefft o gadw gwenyn yn llwyr.

Unwaith mae e gyda chi chewch chi ddim mo'i wared e.

Mae 'na feddigyniaeth i gael ond mae'n rhaid ichi fod yn eithriadol o ofalus pryd 'y chi'n ei ddefnyddio fe.

Allwch chi ddim ei ddefnyddio tra mae mêl ar y cwch achos mae'n gallu effeithio ar y mêl a 'dyw e ddim yn iawn ichi ei fwyta.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Bethan Wyn Jones ar raglen Galwad Cynnar Radio Cymru yn trafod pwysigrwydd y wenynen fêl a'r gobaith o oresgyn problem y Varroa

Wedyn mae'n rhaid ichi ei roi yn y gaeaf pan nad oes mêl i'w werthu ar y cwch.

Mae'r paraseit 'ma yn byw ar sugno gwaed y gwenyn a mae hwnna'n byrhau oes y gwenyn. Dros gyfnod o ddwy i dair blynedd mae'n gallu eu lladd nhw'u i gyd.

Ond yn waeth na hynna, pan maen nhw'n torri drwy gorff y wenynen i sugno'r gwaed mae hefyd yn gwthio feirws i mewn i'r corff.

Mae'n achosi i wenyn gael eu geni heb adenydd a'r pethe rhyfedda'n digwydd. Falle mai problem y feirysus yw'n problem fwya' ni.

Beth am blaladdwyr?

Mae plaladdwyr yn broblem ar wahân i'r paraseit.

Maen nhw'n gallu bod yn broblem mewn rhai rhannau o Gymru ond yng Ngheredigion 'dyw e ddim yn broblem fawr inni achos nad ydyn ni'n cynhyrchu rhai cnydau arbennig fel oil seed rape.

Mae'n digwydd yn enwedig mewn ardaloedd lle maen nhw'n tyfu'r math yna o gnydau sy'n cael eu chwistrellu gan blaladdwyr a chwynladdwyr.

Beth sy'n ddrwg amdano yw fod y plaladdwyr diweddaraf sydd gyda ni yn cael eu rhoi yn yr had gwreiddiol.

Felly gan ei fod yn yr had mae'n tyfu drwy'r planhigyn a phan mae'r gwenyn yn casglu paill neu neithdar o'r blodyn yna maen nhw'n ei gario gartref a'i fwydo i'r rhai bach gartre'.

Mae'n mynd i'r mêl rydych chi a fi'n ei brynu hefyd.

'Drwg arall yn y caws'

Ond yn y blynyddoedd diwetha' ry'n ni wedi ffeindio fod na ddrwg arall yn y caws sy'n effeithio ar hyn o bryd ar y frenhines.

Y frenhines yw canolbwynt y cwch. Hi yw eu mam nhw i gyd ac os oes rhywbeth yn digwydd iddi hi mae tranc y cwch o fewn golwg yn o fuan.

Does na ddim sicrwydd sut mae'n digwydd, ond mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n meddwl fod y Varroa nawr yn effeithio ar y gwryw. Cymerwch chi nawr bod gyda chi frenhines wyryf ifanc, mae'n rhaid iddi gael ei ffrwythloni gan y gwryw.

'Y'n ni'n teimlo bod y paraseit yma'n effeithio ar had y gwryw sy'n golygu eu bod yn methu ffrwythloni'r frenhines yn iawn.

Fel arfer mae'r frenhines yn dodwy am 3-4 blynedd ond ni'n ffeindio nawr bod oes y frenhines fel peiriant dodwy wyau wedi ei fyrhau yn ofnadwy oherwydd nad yw hi'n cael ei ffrwythloni yn iawn gan y gwryw.

Efallai daw hi i ddodwy dim ond am ychydig ddyddiau, wythnosau neu fisoedd yn unig ac efallai na ddaw hi ddim i ddodwy o gwbl.

Mae'n golygu eich bod chi'n cael colledion. Mi wn i am un gwenynwr dros y gaeaf llynedd yn mynd mewn i'r gaeaf gyda naw cwch ac erbyn y gwanwyn, doedd dim un ar ôl.

Image copyright Thinkstock
Image caption Mae tua 50,000 o wenyn mewn un cwch gwenyn, felly mae unrhyw afiechyd yn lledu'n gyflym

'Rhamantiaeth'

Yn rhyfedd iawn mae 'na lawer iawn mwy o ddiddordeb mewn cadw gwenyn nawr, nid yn gymaint ymhlith y Cymry ond ymhlith y bobl sydd wedi symud fewn i fyw yma.

Tua deng mlynedd nôl roedd pawb am gadw gwenyn, o'n nhw am sgrifennu gartre' i ddweud: "Ma' gyda ni wenyn ar waelod yr ardd, mae gyda ni fêl i de" ac yn y blân. Rhamantiaeth llwyr.

Mae cymaint o sôn yn y papurau ac ar radio a theledu am dynged a thranc y gwenyn, mae pobl yn mynd ati i drïo arbed y wenynen, ond dy'n nhw ddim bob amser wedi dysgu'r grefft.

Mae'n grefft sy'n cymryd blynydde mawr i'w dysgu ond mae pobl wedi rhuthro mewn a gwario arian mawr am wenyn a'r rheiny'n marw o fewn ychydig fisoedd.

'Dyw'r ffaith fod 'na gymaint yn dangos diddordeb mewn cadw gwenyn ddim bob amser yn beth da i'r gwenyn.

Mae 'na lun ar y we o graffiti enwog iawn - llun dwy wenynen yn dweud: "When we go, we're taking you all with us". Mae e'n ddweud mawr.

Mae rhai pobl bwysig wedi dweud pan fydd y gwenyn yn peidio â bod fydd popeth yn troi'n anialwch mewn 10 mlynedd.

Sa i'n credu bod hwnna'n gwbl wir, ond mae lot o wirionedd ynddo fe.

Dyfodol?

Rwy'n gweld y dyfodol yn dywyll.

Mae eisiau gwaith ymchwil mawr ond dydw i ddim yn gweld lot o arian yn cael ei roi mewn i hynna achos dyw'n llywodraethau ddim eto wedi sylweddoli gwerth gwenyn.

Does 'na fawr o gefnogaeth o du'r llywodraeth ganolog er, rwy'n teimlo bod y llywodraeth yng Nghaerdydd yn well na'r llywodraeth yn Llundain cyn belled ag y mae hyn yn y cwestiwn - maen nhw'n yn ceisio gwneud rhywbeth.

Pan sylweddolwch chi fod o leiaf un rhan o bob traean o'n bwyd ni'n dibynnu ar wenyn mae'n agoriad llygaid.

Hefyd ar y BBC