Liz Saville Roberts i arwain grŵp seneddol Plaid Cymru

Liz Saville Roberts
Image caption Cafodd Liz Saville Roberts ei hethol i San Steffan am y tro cyntaf yn 2015

Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi ei hethol i arwain grŵp Plaid Cymru yn San Steffan.

Mae'n olynu Hywel Williams, AS Arfon, fu yn y swydd am bron i ddwy flynedd.

Ms Saville Roberts oedd y ddynes gyntaf i gael ei hethol yn Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2015, gan olynu Elfyn Llwyd wedi ei ymddeoliad fel AS.

Mae gan Blaid Cymru bedwar Aelod Seneddol bellach, wedi i Ben Lake gipio Ceredigion o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad ddydd Iau diwethaf.