Guto Bebb wedi'i ail-benodi i Swyddfa Cymru

  • 14 Mehefin 2017
Guto Bebb

Mae AS Ceidwadol Aberconwy, Guto Bebb, wedi ei ail-benodi fel gweinidog yn Swyddfa Cymru.

Daeth cyhoeddiad ddydd Sul bod Alun Cairns, AS Bro Morgannwg, wedi cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Yn gynharach yr wythnos yma, fe wnaeth Mr Bebb annog Theresa May i gymryd safbwynt trawsbleidiol tuag at Brexit, gan ystyried dymuniadau Llywodraeth Cymru.

Does neb wedi eu cadarnhau eto fel olynydd i'r gweinidog arall yn Swyddfa Cymru, yr Arglwydd Bourne, sydd wedi cymryd rôl yn Swyddfa Gogledd Iwerddon.

Fe welodd Mr Bebb ei fwyafrif yn Aberconwy yn gostwng o bron i 4,000, i 635, yn yr etholiad yr wythnos diwethaf.