Owen Smith yn ôl yng nghabinet yr wrthblaid

  • 14 Mehefin 2017
Owen Smith Image copyright Getty Images

Mae'r cyn-ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Owen Smith, yn ôl yng nghabinet yr wrthblaid.

Mae AS Pontypridd wedi'i benodi'n Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon yr wrthblaid gan Jeremy Corbyn.

Fe wnaeth Mr Smith adael ei rôl fel Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau yr wrthblaid yn 2016 i herio Mr Corbyn am yr arweinyddiaeth.

Cynyddodd Mr Smith ei fwyafrif o tua 2,500 pleidlais yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos diwethaf.