Pedwar Cymro'n dechrau i'r Llewod i herio'r Maori

  • 15 Mehefin 2017
Cymry'r Llewod Image copyright Getty Images

Bydd pedwar Cymro yn dechrau i'r Llewod i herio Maori'r Crysau Duon yn Rotorua ddydd Sadwrn.

Bydd Leigh Halfpenny, Jonathan Davies a George North yn y cefnwyr, gyda Taulupe Faletau yn chwarae fel wythwr.

Mae tri Chymro arall - Ken Owens, Dan Biggar a'r capten Sam Warburton - ymysg yr eilyddion.

Mae'r gêm ddydd Sadwrn union wythnos cyn prawf cyntaf y daith yn erbyn Seland Newydd ar 24 Mehefin.

Pryder i Liam Williams?

Y Gwyddel Peter O'Mahony fydd yn gapten, gyda Johnny Sexton yn dechrau am y tro cyntaf ers gêm gyntaf y daith yn erbyn Barbariaid y Taleithiau.

Bydd penderfyniadau Warren Gatland efallai yn peri pryder i'r cefnwr Liam Williams, sydd ddim yn y garfan am yr ail gêm yn olynol.

Un anaf fydd yn poeni cefnogwyr Y Llewod yw hwnnw i'r maswr, Owen Farrell.

Yn wreiddiol cafodd ei enwi ar y fainc i herio'r Maori, cyn i Biggar gymryd ei le oherwydd yr anaf.

Y Llewod

L Halfpenny; A Watson, J Davies, B Te'o, G North; J Sexton, C Murray; M Vunipola, J George, T Furlong, M Itoje, G Kruis, P O'Mahony (capten), S O'Brien, T Faletau.

Eilyddion: K Owens, J McGrath, K Sinckler, I Henderson, S Warburton, G Laidlaw, D Biggar, E Daly.