Dau filwr wedi marw yn dilyn digwyddiad tanc Castell Martin

Castell Martin Image copyright Wales News Service

Mae ail filwr wedi marw yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thanc ar faes tanio Castell Martin yn Sir Benfro.

Daeth y cyhoeddiad am yr ail farwolaeth yn hwyr nos Iau mewn trydar gan Tobias Ellwood, Gweinidog yn y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae dau filwr arall yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad tua 15:30 brynhawn Mercher.

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn na fydd yna danio ar y safle am y tro ac mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r digwyddiad.

Image caption Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn parhau i ymchwilio i achos y digwyddiad

Bu farw un o'r milwyr yn Ysbyty Treforys fore Iau.

Dywedodd y gweinidog sydd â chyfrifoldeb, Tobias Ellwood, bod y milwr fu farw yn aelod o Gatrawd Brenhinol y Tanciau.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn parhau i ymchwilio i achos y digwyddiad.

Mae BBC Cymru yn deall fod y digwyddid yn ymwneud â ffrwydron sy'n cael eu tanio o danciau Challenger.

"Diogelwch ein staff yw ein blaenoriaeth pennaf, ac mae ymchwiliad llawn wedi'i lansio i ddeall manylion y digwyddiad trasig yma," meddai Mr Ellwood.

Image copyright Wales News Service

Mae gwybodaeth ar wefan y ganolfan yn dweud bod disgwyl i fwledi byw gael eu tanio yno drwy gydol yr wythnos.

Mae'r safle dros 5,900 acer ar hyd arfordir Sir Benfro.

Image caption Roedd disgwyl i fwledi byw gael eu tanio yno drwy gydol yr wythnos