Brexit: Barn y pleidiau wrth i'r trafodaethau ddechrau

baner cymru

Wrth i'r trafodaethau Brexit ddechrau o ddifrif, mae canlyniad yr Etholiad Cyffredinol yn awgrymu bydd yn rhaid i Theresa May ystyried safbwyntiau'r pleidiau eraill - yn ogystal â'i phlaid ei hun - er mwyn osgoi gwrthdaro difrifol yn San Steffan.

Mae yna gytuno cynyddol ymhlith y pleidiau mawr fod angen derbyn canlyniad y refferendwm flwyddyn yn ôl.

Ond bydd yr anghytuno ffyrnig yn parhau ar ddyfodol masnach a mewnfudo yn enwedig.

Beth yw blaenoriaethau pleidiau felly?

Yn ffodus mae'r pleidiau newydd ddweud wrthon ni - trwy gyfrwng eu maniffestos ar gyfer Etholiad 2017.

Er mwyn atal unrhyw anghyfleustra diangen i'n darllenwyr, fe wnaeth Cymru Fyw grynhoi'r cyfan ar eich cyfer.

Y Ceidwadwyr

Mae'r cyfeiriad yn glir. "Brexit yw Brexit" meddai Mrs May.

Ond gan fod llywodraeth Theresa May yn dechrau cyfnod cymhleth o drafod, mae manylion gwir ystyr hynny efallai ychydig yn brin.

Mae'r blaenoriaethau yn cael eu disgrifio gan y Ceidwadwyr Cymreig fel hyn:

  • Gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn ffordd esmwyth a threfnus sy'n gweithio i Gymru a phob rhan o'r DU;
  • Meithrin partneriaeth ddofn ac arbennig â'n cyfeillion a'n cymheiriaid ledled Ewrop;
  • Rhaid i Brydain aros yn gryf ac yn unedig - a chwarae rôl arweiniol yn y byd er mwyn diogelu ein buddiannau.
Image copyright Reuters
Image caption Bydd trafodaethau yn dechrau rhwng prif drafodwr yr UE, Michel Barnier (chwith) ac Ysgrifennydd Brexit llywodraeth y DU, David Davis ddydd Llun

Llafur Cymru

Mae Llafur yn dweud eu bod wedi derbyn canlyniad y refferendwm. Ond maen nhw eisiau cadw rhai agweddau sylfaenol o'r berthynas rhwng Prydain a'r UE.

Dyma eu prif flaenoriaethau:

  • Sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i'r Farchnad Sengl i gefnogi busnesau, a sicrhau swyddi a ffyniant Cymru i'r dyfodol;
  • Ymateb i bryderon am agweddau ar fudo trwy gysylltu mudo yn y dyfodol a chyflogaeth;
  • Ar gyllid a buddsoddi, yr angen i lywodraeth y DU gyflawni'r addewidion a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru yn colli ceiniog o gyllid.

Plaid Cymru

Dywedodd plaid Leanne Wood y dylid:

  • Sicrhau bod modd masnachu ag Ewrop heb unrhyw rwystrau costus;
  • Mynnu bod Cymru yn derbyn pob ceiniog o'r hyn addawyd i Gymru yn ystod yr ymgyrch i adael yr UE;
  • Cael ymrwymiad i ymgynghori â'r Cynulliad Cenedlaethol cyn cytuno ar drefniadau masnachu newydd;
  • Gwarantu hawliau dinasyddion Ewrop sydd yn byw yng Nghymru.
Image copyright Reuters
Image caption Ar ôl methu â sicrhau mwyafrif yn yr etholiad, bydd rhaid i Theresa May ddibynnu ar gefnogaeth pleidiau eraill ar gyfer ei chynlluniau Brexit

Democratiaid Rhyddfrydol

Er nad oes gan y blaid hon Aelod Seneddol yng Nghymru - nag arweinydd ar hyn o bryd - maen nhw wedi cynyddu eu cynrychiolaeth yn San Steffan.

Maen nhw mewn lleiafrif wrth iddyn nhw barhau i wrthwynebu Brexit.

Yn y cyfamser maen nhw'n gofyn am y canlynol:

  • Parhau ag aelodaeth o'r farchnad sengl;
  • Cadw'r egwyddor o ryddid pobl i symud a gweithio;
  • Gwrthwynebu unrhyw newidiadau i wneud Cymru yn llai llewyrchus;
  • Sicrhau fod grymoedd priodol yn cael eu datganoli wedi Brexit.

UKIP

Mae dylanwad UKIP wedi edwino ers canlyniadau trychinebus yn yr etholiad cyffredinol. Dyma eu blaenoriaethau:

  • Torri'r cysylltiad ffurfiol rhwng Prydain a'r Undeb Ewropeaidd mor fuan â phosib;
  • Gwrthwynebu rhyddid dinasyddion i symud a gweithio heb reolau llymach;
  • Dweud nad oes angen cytundeb gyda'r UE i fasnachu, gan ein bod yn mewnforio mwy o nwyddau o Ewrop nag sydd yn cael ei allforio.