Dr Bethan Roberts yn sôn am amrywiaeth y casgliad o luniau
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Meddygon yn portreadu profiadau trwy luniau

16 Mehefin 2017 Diweddarwyd 07:23 BST

Mae doctoriaid Cymru wedi bod yn mynegi beth mae bod yn feddyg yn golygu iddyn nhw ar ffurf celf.

Fe lansiodd Cymdeithas Feddygol Prydain y gystadleuaeth ffotograffiaeth ym mis Mai er mwyn creu trafodaeth a deall y realiti o fod yn feddyg yn 2017.

Roedd Dr Bethan Roberts yn un o'r rhai ddaeth i'r brig ac mae'n dweud bod y casgliad o luniau gan y meddygon wedi bod yn rhai amrywiol.