Angen ymateb 'chwyldroadol' i gyrraedd targed iaith

Athro Rhys Jones
Image caption Mae her enfawr yn wynebu Llywodraeth Cymru, meddai'r Athro Rhys Jones

Mae arbenigwr ar ddaearyddiaeth iaith wedi dweud wrth raglen Manylu ar BBC Radio Cymru fod angen i Lywodraeth Cymru weithredu mewn ffordd "drawsnewidiol a chwyldroadol", os ydyn nhw am gael unrhyw obaith o gyrraedd eu targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ôl yr Athro Rhys Jones, Pennaeth yr Adran Ddaearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae'n rhaid i'r llywodraeth ystyried gwneud "penderfyniadau anodd", gan gynnwys deddfu i newid statws iaith nifer o ysgolion.

"Mae angen ystyried ble mae deddfwriaethu, a gorfodaeth, efallai, yn mynd i orfod digwydd," meddai.

"Bydden i'n tybio bod angen ewyllys wleidyddol gryf i ddatgan, er enghraifft, bod angen newid iaith rhai ysgolion o fod yn ysgol Saesneg i fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg.

"Os y'n ni am gyrraedd y nod yma, mae angen rhywbeth newydd i ddigwydd ac mae angen i ni newid, er enghraifft, beth yw statws ysgol."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw yn y broses o lywio'r strategaeth iaith derfynol.

Image caption Fe wnaeth Carwyn Jones amlinellu ei weledigaeth i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn yn ystod Eisteddfod Y Fenni yn 2016

'Chwyldro'

Ym marn yr Athro Rhys Jones, mae her enfawr yn wynebu Llywodraeth Cymru.

"Os wnawn ni bethau yn yr un ffordd ag y'n ni wedi gwneud o'r blaen, wel, na, wnawn ni ddim cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr.

"Mae eisiau i rywbeth eitha' trawsnewidiol a chwyldroadol i ddigwydd er mwyn i ni allu cyrraedd y nod."

Mae Manylu hefyd wedi bod yn ymweld ag ardal Llangadog yn Sir Gaerfyrddin, er mwyn gofyn barn trigolion yr ardal am y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg.

Mae'r pentref wedi bod yn un o gadarnleoedd traddodiadol yr iaith yn y sir, a bu Gwynfor Evans - Aelod Seneddol cynta' Plaid Cymru - a'i deulu yn byw yno am ddegawdau.

Er bod 55% o'r trigolion yn dal i siarad Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd y ffigwr 7% yn is nag oedd e' yn 2001.

Sicrhau dwyieithrwydd

Mae rhyw 100 o blant yn Ysgol Gynradd Llangadog, a Chymraeg yw iaith addysgu yn yr ysgol.

Ond dyw cynnal yr iaith ddim heb ei heriau, yn ôl y Pennaeth, Aled Rees.

"Yn sicr, ry'n ni wedi gweld mwy o fewnfudo, ac ry'n ni wedi gweld mwy o blant yn dod aton ni o gefndiroedd di-Gymraeg, ac mae hynny'n gosod her."

Image caption Mae'n rhaid i'r Llywodraeth sicrhau fod digon o gyllid a chefnogaeth i ysgolion, meddai Aled Rees

"Ry'n ni am sicrhau fod pob plentyn yn gwbl rugl yn y Gymraeg a'r Saesneg - yn gwbl ddwyieithog - erbyn eu bod nhw'n gadael ni ym Mlwyddyn Chwech.

"Beth sy'n gwneud pethau'n fwy anodd yw os yw plant yn dod aton ni'n hwyrach - ymhellach i fyny'r ysgol."

Fe wnaeth Chloe ddechrau yn Ysgol Llangadog ym mis Medi 2015.

Roedd hi bron yn naw oed, wedi bod i ysgol cyfrwng Saesneg, a'r teulu'n hanu o Sir Warwick yn Lloegr. Ond nawr mae'n rhugl yn y Gymraeg.

Yn ôl ei mam, Claire, mae wedi ei synnu fod ei merch wedi gallu dysgu'r iaith mor gyflym.

Image caption Mae Chloe wedi dysgu'r Gymraeg yn gyflym meddai ei mam

"Roedd hi'n cael gwersi Cymraeg ddwywaith yr wythnos yn Ysgol Llangadog pan ddechreuodd hi yno," meddai.

"Fe gymerodd hi at yr iaith mor rhwydd. Mae'n caru'r iaith, a'r peth gorau wnes i oedd ei hanfon hi i ysgol Gymraeg."

Ffynnu yn y gymuned

Er bod pennaeth yr ysgol wrth ei fodd gyda'i chynnydd, er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n rhybuddio na ddylai Llywodraeth Cymru ddibynnu ar frwdfrydedd disgyblion fel Chloe a'u teuluoedd.

"Does dim amheuaeth ei bod hi'n darged uchelgeisiol. Ac ry'n ni'n croesawu hynny achos mae e'n dangos fod y Llywodraeth wir am wneud gwahaniaeth," meddai Mr Rees.

"Ond y tu hwnt i'r ysgolion hefyd, mae angen fframweithiau yn eu lle i sicrhau fod yr iaith yn llewyrchu yn y gymdeithas, a bod hi ddim yn cael ei gweld fel iaith y dosbarth yn unig."

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw yn y broses o lywio'r strategaeth iaith derfynol, a fydd yn gosod y cyfeiriad hirdymor i gyrraedd y nod.

Ac mae'n debyg y bydd y strategaeth honno yn cael ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf.

"Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr yn darged sy'n fwriadol uchelgeisiol," meddai'r llefarydd.

"Mae heriau o'n blaenau ond gallwn wynebu'r rheiny heb os, gan wybod ein bod yn adeiladu ar sylfaen gref."

Manylu am 12:30 ar Radio Cymru ddydd Iau 22 Mehefin a dydd Sul 25 Mehefin am 16:00.Mae'r rhaglen hefyd ar gael ar yr iPlayer

Straeon perthnasol