Taith yr Haf: Tonga 6-24 Cymru

Alex Cuthbert Image copyright PA
Image caption Alex Cuthbert sgoriodd unig gais yr hanner cyntaf

Fe wnaeth Cymru ennill eu gêm gyntaf ar Daith yr Haf wrth iddyn nhw drechu Tonga mewn gêm galed yn Auckland.

Aeth Cymru ar y sgorfwrdd yn gynnar trwy gic gosb Sam Davies cyn i gais yr asgellwr Alex Cuthbert ymestyn eu mantais ar ôl 20 munud.

Fe wnaeth Sonatane Takulua sicrhau pwyntiau cyntaf Tonga yn fuan wedi hynny trwy gic gosb i wneud y sgôr yn 3-8 ar yr egwyl.

Tonga gafodd y dechrau gorau i'r ail hanner wrth i Takulua gicio triphwynt, cyn i Davies gicio tair cic gosb arall i adfer ac ymestyn mantais Cymru.

Er hyn, ni chafodd Davies ddiwrnod da o ran cicio, wrth iddo fethu tair cic arall at y pyst.

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Cymru'r croeso arferol gan y gwŷr o'r môr tawel

Ychwanegodd Cymru ail gais yn y munudau olaf wrth iddynt ennill cais gosb yn dilyn sgarmes symudol bwerus, gan adlewyrchu eu rheolaeth o'r gêm.

Anaml oedd y gwŷr o'r môr tawel yn llwyddo i ymestyn amddiffyn Cymru, ac fel Davies, doedden nhw ddim yn gywir gyda'u ciciau chwaith.

Roedd tri chwaraewr yn y 15 oedd yn dechrau - Steff Evans, Seb Davies a Thomas Young - yn ennill eu capiau cyntaf ym Mharc Eden.

Fe wnaeth chwe chwaraewr arall - Ryan Elias, Wyn Jones, Dillon Lewis, Ollie Griffiths, Aled Davies ac Owen Williams - ennill eu capiau cyntaf oddi ar y fainc.

Bydd Cymru'n herio Samoa yn eu prifddinas, Apia, ddydd Gwener nesaf yn eu gêm olaf ar y daith.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe gafodd Sam Davies ddiwrnod cymysg yn cicio at y pyst

Straeon perthnasol