Da 'di dad 'de

Dydi hi ddim yn job hawdd, does neb yn rhoi llawlyfr na disgrifiad swydd ichi cyn ei gwneud ac yn aml iawn mae'r mamau yn cael mwy o glod.

Ond i nodi Sul y Tadau, mae Cymru Fyw yn dathlu tadau Cymru gyda detholiad o ddyfyniadau gan dadau a'u plant o'n cyfres o erthyglau teuluol dan y teitl Yr Ifanc a Ŵyr.

Hywel Gwynfryn a'i fab Huw Evans

Y tad:

"Dwi wedi trio magu fy mhlant i fod yn pwy bynnag maen nhw eisiau bod a ddim yn adlewyrchiad o'r hyn ydw i neu Anya. Dwi'n gredwr cryf yn hynny.

"Fe fyddai wastad yn dweud mai tair 'C' rydych chi ei angen i fagu plant - eu Cael nhw, eu Caru nhw a - hyn sy'n bwysig - eu Cefnogi nhw. Mae bywyd yn rhoi cyfle ichi ddarganfod pwy rydych chi eisiau bod ac mae'n bwysig cymryd y cyfle."

Y mab:

"Dydi o erioed wedi bod yn siomedig ynddon ni fel plant. Dyna un peth amdano fo, mae o'n un o'n ffans mwya' ni ac yn berson cefnogol ofnadwy.

"Dwi'n mwynhau cael paned ac eistedd i lawr a sgwrsio efo fo, mae'n 'neud i fi chwerthin - dwi'n licio hongian allan efo fo, mae'n foi ffyni!"

Geraint a Mari Lovgreen

Y tad:

"Un o'r pethau wna'i byth ddod drosto yn iawn oedd ei siom ynof fi wedi imi orfod cyfaddef nad oeddwn wedi bod yn hollol strêt efo hi am fodolaeth Siôn Corn, a hithau wedi bod yn rhedeg ymgyrch yn erbyn yr anghredinwyr yn Ysgol y Gelli, Caernarfon.

"Er ei bod hi wedi symud i ffwrdd, dwi'n teimlo ein bod ni'n dal yr un mor agos os nad yn agosach at ein gilydd.

"Dwi'n falch iawn ohoni ac o bopeth mae hi wedi'i gyflawni, ac yn falch iawn ein bod ni'n ffrindiau da yn ogystal â thad a merch."

Y ferch:

"Dydi perthynas Dad a fi heb newid lot dros y blynyddoedd. 'Da ni unai'n ffraeo fel brawd a chwaer neu'n cael lot o hwyl.

"Mae'n rhaid i mi gyfaddef, do'n i ddim yn teenager oedd yn neis iawn efo'i rhieni. Dechreuodd Dad fy ngalw'n Mari Enfield ar ôl y cymeriad afiach o sulky hwnnw gan Harry Enfield - Kevin.

"Dwi'n cofio gwylltio Dad gymaint unwaith 'nath o ddechra' rhedeg ar fy ôl i fyny'r grisia; yn lwcus i fi, dydi o ddim yn ffit iawn!

"Mae o wastad wedi pwysleisio pa mor bwysig ydy bod yn chi'ch hun, a mae honno wedi bod yn wers werthfawr iawn."

Y Parch John Gwilym Jones a Tudur Dylan Jones

Y tad:

"Buom yn eithriadol ffodus mewn tri phlentyn, a Dylan yw'r un canol.

"Un o'i wendidau mawr yw ei deyrngarwch unllygeidiog i Fanceinion Unedig, a hynny o'i blentyndod.

"Un tro aethom â'r tri, a Dylan tua'r pump oed, i weld mannau hanesyddol Môn. O fewn i eglwys Penmynydd, yn pwyso ar wal ger yr allor, yr oedd baner ac arni'r llythrennau MU yn fawr. Ni ddeallodd Dylan mai baner y Mother's Union oedd hon. Dim ond un MU oedd ar ei feddwl, a mynegodd ei lawenydd ar unwaith fod saint Penmynydd yn gefnogwyr Man U."

Y mab:

"Pan fyddem yn mynd ar deithiau hir yn y car, draw i Blas yn Rhos i weld Taid a Nain, neu i Gastellnewydd Emlyn i weld Datcu a Mamgu, yr hyn oedd yn byrhau'r daith i dri phlentyn ifanc oedd straeon Dat.

"Roedden nhw'n llawn dychymyg, ac yn para digon i'n cadw'n llawn cyffro o Gaernarfon i Synod Inn neu o Fethesda i Gorwen.

"Mae'n siŵr fod cariad at eiriau wedi dechrau datblygu yn ystod y teithiau hynny,"

Brynmor Williams a Lloyd Williams

Image copyright Huw Evans Agency

Y tad:

"Mae lot o rieni yn ceisio chwarae eu bywydau chwaraeon drwy eu plant ond oedd dim eisiau imi wneud 'na achos o'n i 'di cael digon o lwyddiant fy hunan.

"Ond mae'r ffaith fod y ddau grwt wedi gwneud yn dda yn rhoi pleser mawr imi er nad oedd yn unrhyw fath o darged. Rwy' jyst yn hapus eu bod nhw'n mwynhau, yn gwneud yn dda ac yn cadw i ddysgu.

"Os rwbeth roedd gen i fwy o falchder pan enillodd Lloyd ei gap cynta' na phan ges i fy nghap cynta'. Mae llwyddiant eich plant yn bwysicach na'ch llwyddiant chi'ch hunan..."

Y mab:

"'Nath Dad ddim gwthio ni mewn i rygbi o gwbl.

"Ro'n i tua 17 oed pan nes i sylweddoli beth oedd Dad wedi ei wneud gyda'i yrfa achos pan o'n i'n tyfu lan o'n i jyst yn edrych lan ato fe fel unrhyw blentyn arall.

"Dyna pryd nes i ddechre fod eisiau mynd ymlaen gyda rygbi a dyna pryd nes i ddechre gofyn cwestiynau i Dad am ei yrfa a dysgu mwy.

"Wy'n cofio Dad yn smyglo ni mewn i'r stadiwm weithiau a falle bod ni'n ca'l e mewn i bach o drwbl ar y pryd! Ond fi'n credu bod e wedi bod yn rhywbeth pwysig iawn i fi a Tom [y brawd]."

Ellis Wyn Roberts ac Osian Roberts

Image copyright Osian Roberts
Image caption Y teulu: Osian, Llinos, Olwen ac Eirian yn y cefn a'u rhieni, Ellis Wyn Roberts a'i wraig Ann

Y tad:

"'Toes 'na fawr o chwarae pêl-droed yn perthyn imi ond roedd gen i ddiddordeb mewn gweld y plant wrthi... roeddan ni'n mynd o gwmpas efo nhw ar ddydd Sadwrn yn y fan i wahanol lefydd ar ddechrau'r gynghrair iau sydd wedi tyfu yn Sir Fôn erbyn hyn.

"Roeddan ni'n odiaeth o falch yn yr Euros.

"Dwi'n meddwl mai be' oedd wedi rhoi'r balchder mwyaf oedd ein bod ni wedi cael clywed cymaint o Gymraeg yno."

Y mab:

"Roedd o'n gweithio'n galed - rhaid i rywun motivatio ei hun pan mae'n gweithio iddo fo'i hun ac mae'n siŵr mai ei gymhelliant mwyaf oedd rhoi bwyd ar y bwrdd, mor sylfaenol â hynny.

"Dwi wedi cael ambell i sgwrs efo Dad ynglŷn â'r tebygrwydd rhwng sgiliau hyfforddi a llefaru.

"Yn lle dweud 'dyma sut dwi isho i chdi ddweud y frawddeg yma' roedd WH a Dad yn trio ei dynnu allan ohona i. Roedd o'n fwy am gyfleu'r teimlad - 'dyma be' rwyt ti'n ei deimlo, dyma be' ydan ni'n drio'i dd'eud, sut fysa chdi'n ei dd'eud o?'

"Mae hynny'n union 'run fath a be' dwi'n ei wneud mewn pêl-droed."