O fynyddoedd y Maori

Lauren Jenkins gyda'r cyflwynydd Ross Harries yn Seland Newydd fel rhan o dîm BBC Cymru
Image caption Lauren Jenkins gyda'r cyflwynydd Ross Harries yn Seland Newydd fel rhan o dîm BBC Cymru

Gydag ychydig dros wythnos cyn gêm brawf gyntaf Y Llewod, gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Lauren Jenkins, sy'n bwrw golwg ar y sefyllfa fel y mae hi yn Seland Newydd:


'Ar goll mewn amser'

Os oedd Gorllewin Gwyllt yr Unol Daleithiau wedi'i leoli ar un pen y byd, ac un o gymoedd segur Cymru'r pen arall - bydde tre' Waimate rywle yn y canol.

Ar ôl gadael awyrgylch ysbrydol Christchurch, fe deithion ni 400km lawr arfordir dwyreiniol y wlad i Dunedin, sef lleoliad y bedwaredd gêm.

Mi allen i ysgrifennu am y mynyddoedd syfrdanol, yr awyr tanllyd neu drac sain ysbrydoledig y daith (Aretha Franklin a Etta James os oes diddordeb) ond tref Waimate yn Canterbury sy'n hawlio'r sylw.

Roedd 8km o ddargyfeiriad er mwyn ail-lenwi ar fwyd a phetrol yn teimlo fel cyfaddawd teg.

Image caption Y daith i Dunedin...

Ond cyn hir roedd hi'n teimlo fel mynd nôl 50 mlynedd mewn amser wrth gamu allan o'r car i'r stryd o siopau... henaidd - i fod yn garedig - o oes y ceryg i fod yn fwy cywir.

Pe bai 'na bencampwriaeth ar gyfer chwilota drwy siopa' ail-law, dyma le fydde'r ffeinal yn cael ei chynnal. Roedd y cinio a gawsom yn yr unig gaffi lleol yn ymddangos fel cwstard ceuledig, ond yn cael ei hysbysebu fel Fish Chowder.

Felly pam sôn am y dref hon?

Daeth teimlad fy mod yng nghrombil Seland Newydd - nid ymysg cyfoeth Auckland sy'n gartref i bron i chwarter poblogaeth y wlad neu yn Queenstown ond yn hytrach yn y dref syml hon, ar goll mewn amser, o'r enw Waimate.

Dyma le sy'n gartref i fechgyn ifanc yn byw bywyd digon syml ond yn breuddwydio am gael dilyn yn ôl traed Richie Mccaw. Lle sydd hefyd yn gartref i weinyddes a ddywedodd gyda chwrteisi a balchder: "Rydym yn derbyn llawer o glod yn yr ardal 'ma am ein fish chowder."

Image caption "...y dref syml hon, ar goll mewn amser, o'r enw Waimate."

Wedi cyrraedd Dunedin, (sef Caeredin y de) roedd naws llawer fwy Ewropeaidd i'r lle gyda'r pensaernïaeth draddodiadol yn wrthgyferbyniad llwyr i fodernrwydd stadiwm gwydr, mawreddog y Forsyth Barr.

A beth am y rygbi? Ar ôl ail golled y daith o 23-22 yn erbyn yr Highlanders, gadawais i'r pwynt sylwebu mewn lifft gyda chyn maswr Lloegr a'r Llewod, Stuart Barnes.

"Beth oeddech chi'n meddwl o hynny?" gofynnais. "Gêm wych," atebodd cyn ychwanegu: "A dyna beth sydd angen cofio am heno. Adloniant pur."

Anodd oedd anghytuno. Roedd yna gyfleoedd wedi'u gwastraffu, diffyg cywirdeb, penderfyniadau dadleuol a booio ffiaidd gan y cefnogwyr ond roedd y gêm mor gyffrous gyda'r Cymro Dan Biggar yn llywio'r cyfan.

Image copyright Getty Images
Image caption A fydd Dan Biggar yn chwarae rhan allweddol ar y daith?

Yn gynharach yn yr wythnos, fe ddywedodd gyda'r gonestrwydd a'r charm,sydd mor nodweddiadol ohono, nad oedd yn hapus gyda'r syniad o fod yn drydydd yn y pecking order tu ôl i Owen Farrell a Johnny Sexton.

Gydag anaf i Farrell, a Biggar nawr yn dangos fod e'n barod i barhau'r traddodiad cyfoethog o faswyr dylanwadol o Gymru yn Llewod... mae gen i deimlad y bydd e'n ffurfio rhan bwysig o'r garfan cyn diwedd y daith.

Ond, wrth gwrs, ma' dwy gêm arall i'w chwarae cyn hynny. Yr un gyntaf ddydd Sadwrn yn nghrombil Rotorua, a hynny yn erbyn Maori'r Crysau Duon.

Gyda phob chwaraewr yn gorfod profi ei hunain, un peth fydd sicr yn bresennol yw cymhelliant.

A thalent? Ar ôl tair wythnos yn Seland Newydd, ma' hynny nawr i'w gymryd yn ganiataol.