Cynnal rownd derfynol cystadleuaeth BBC Canwr y Byd

Y cystadleuwyr terfynol
Image caption Y cantorion sydd wedi bod yn cystadlu trwy'r wythnos er mwyn ennill ei lle yn y rownd derfynol

Bydd cantorion ar draws y byd yn cael gwybod eu ffawd yn ddiweddarach wrth i enillydd cystadleuaeth BBC Canwr y Byd gael ei gyhoeddi.

Mae'r gystadleuaeth sydd yn cael ei chynnal bob dwy flynedd ar gyfer cantorion sydd ar ddechrau eu gyrfa, a rhwng 18 a 32 oed.

Mae'n cael ei ystyried yn un o gystadlaethau operatig pwysicaf y byd, ac mae'n digwydd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Pump sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni.

Mae dwy gantores o Brydain tra bod cantor arall o Unol Daleithiau America, un cystadleuydd o Awstralia a chanwr arall o Fongolia.

Dyw Sioned Gwen Davies, oedd yn cynrychioli Cymru, ddim wedi cyrraedd y ffeinal nos Sul.

Cystadleuwyr rownd derfynol Gwobr BBC Canwr Y Byd

Anthony Clark Evans, bariton o Unol Daleithiau America, 32 oed - enillydd rownd un

Ariunbaatar Ganbaatar, bariton o Fongolia, 29 oed - enillydd rownd dau

Louise Alder, soprano o Loegr, 30 oed - enillydd rownd tri

Kang Wang, tenor o Awstralia - 29 oed - enillydd pedwar

Catriona Morison, mezzo soprano o'r Alban, 31 oed - lle wedi ei neilltuo

Image caption Sioned Gwen Davies yn canu yng Nghystadleuaeth i Gantorion Cymreig
Image copyright BRIAN TARR/BBC
Image caption Nadine Koutcher ddaeth i'r brig y tro diwethaf yn 2015

Roedd mwy na 300 o gantorion o 55 o wledydd wedi gwneud cais i fod yn rhan o'r gystadleuaeth eleni, a 20 wnaeth gyrraedd y rowndiau olaf.

Yn ystod yr wythnos maen nhw wedi bod yn perfformio o flaen panel o arbenigwyr cerddorol, gydag enillydd bob rownd yn canu eto yn y rownd derfynol.

Yn ogystal â'r teitl Canwr y Byd mae dwy wobr arall sef Gwobr y Datganiad a Gwobr Cynulleidfa Y Fonesig Joan Sutherland.

Cafodd Gwobr y Datganiad nos Wener ei rhannu rhwng Ariunbaatar Ganbaatar, bariton 29 oed o Fongolia, a Catriona Morison, mezzo soprano 31 oed o'r Alban.

Y tri arall yn y rownd derfynol oedd John Chest o'r Unol Daleithiau, Iurii Samoilov o'r Wcráin, a Louise Alder o Loegr.

Bydd y wobr gynulleidfa yn cael ei chyhoeddi nos Sul.

Yn 1983 cafodd y gystadleuaeth ei chynnal am y tro cyntaf ac mae'n cael ei darlledu ar radio a theledu'r BBC.

Straeon perthnasol