Tîm Cymru yn parhau yn gystadleuol
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Tîm Cymru yn parhau yn gystadleuol

16 Mehefin 2017 Diweddarwyd 22:09 BST

Gyda phedair gêm yn weddill i Gymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd mae'r is-reolwr Osian Roberts yn dweud bod y tîm yn anelu i orffen ar frig y grŵp.

Ar ôl pum gêm gyfartal, mae'n cyfaddef y bydd hi'n galed ond fod y tîm yn parhau'n gystadleuol.

Bu'n siarad â gohebydd chwaraeon BBC Cymru, Owain Llŷr.