Defnyddio sganiwr CT ar gyfer astudiaeth gwenith

  • 18 Mehefin 2017
Nathan Hughes Image copyright Prifysgol Aberystwyth
Image caption Bydd Nathan Hughes yn cyflwyno ei ganfyddiadau i'r Gymdeithas Geneteg ym mis Awst

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn defnyddio technoleg sganio CT o ysbyty er mwyn astudio gwenith.

Gallai'r dechneg newydd, sydd wedi ei ddatblygu gan fyfyriwr cyfrifiadureg israddedig, Nathan Hughes, helpu gwyddonwyr i greu mathau newydd o wenith allai ffynnu wrth i'r hinsawdd newid.

Bydd technoleg Mr Hughes yn galluogi gwyddonwyr i ganfod gwybodaeth o ddelweddau 3D o ben y gronynnau gwenith.

Mae nawr wedi ennill bwrsariaeth er mwyn datblygu'r dechnoleg dros yr haf.

Gan ddefnyddio cyfrifiaduron Raspberry Pi, fe wnaeth Mr Hughes addasu faint o ddŵr oedd yn cael ei roi i blanhigion a chofnodi'r newid yn eu pwysau, cyn astudio'r pennau gan ddefnyddio'r dechnoleg sganio - sydd fel arfer i'w weld mewn ysbytai - i edrych ar y gwahaniaethau yn eu datblygiad.

Fel arfer erbyn y cam hwn byddai gronynnau unigol yn cael eu hastudio gyda llaw, ond mae techneg Mr Hughes yn golygu bod modd archwilio 3,000 o ronynnau mewn awr.

Gyda'r dechneg hon, roedd 97% o'r canfyddiadau yn rai cywir.

Bydd Mr Hughes yn cyflwyno ei waith i'r Gymdeithas Geneteg yng Nghaeredin ym mis Awst.