Cau twnnel Bryn-glas yr M4 i'r gorllewin ar gyfer gwaith

  • 18 Mehefin 2017
twnnel Brynglas i'r gorllewin Image copyright Norman Hyett/Geograph

Mae un ochr o dwnnel Bryn-glas ar yr M4 wedi ei gau ddydd Sul wrth i waith uwchraddio barhau.

Bydd traffig i gyfeiriad y gorllewin yn cael ei ddargyfeirio ar hyd ffordd ddeheuol yr A48 rhwng cyffordd 24 a 28 ar yr M4.

Bydd y ffordd i'r gorllewin rhwng cyffordd 25a a chyffordd 26 yn ailagor am 06:00 ddydd Llun.

Mae disgwyl i'r ddau dwnnel fod ar gau yn achlysurol yn ystod y nos wrth i beirianwyr uwchraddio'r systemau mecanyddol a thrydanol.