Caerdydd: Dyn 18 oed yn yr ysbyty ar ôl cael ei drywanu

  • 18 Mehefin 2017
Heddlu arfog yn Waunadda Image copyright @Kuroechan97
Image caption Heddlu arfog ar Stryd Meteor yn Waunadda

Mae llanc 18 oed wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ar Stryd Meteor yn ardal Waunadda y ddinas toc wedi 13:10.

Mae'r dyn bellach yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a dywedodd y gwasanaeth ambiwlans fod ei anafiadau yn ddifrifol ond ddim yn peryglu'i fywyd.

Cafodd swyddogion arfog eu hanfon i'r digwyddiad, ac mae'r heddlu yn dweud eu bod yn parhau i geisio chwilio am y sawl oedd yn gyfrifol.

Image copyright @Kuroechan97