Dod o hyd i fachgen pedair oed oedd ar goll o'r Bala

heddlu

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dod o hyd i fachgen pedair oed yn saff, wedi iddo fynd ar goll yn ardal Y Bala.

Roedd McCauley Finnerty yn gwisgo crys pêl-droed gwyn Manchester United, a siorts gwyn.

Mae ganddo wallt melyn, a dywedodd yr heddlu ei fod yn gwisgo paent mewn patrwm Spiderman ar ei wyneb.

Roedden nhw wedi apelio ar unrhyw un sydd wedi ei weld i gysylltu gyda nhw ar 101 neu 999.