Cyhoeddi llywyddion Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

  • 19 Mehefin 2017
eisteddfod genedlaethol
Image caption Bydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 yn cael ei chynnal yn ardal y bae

A hithau'n wythnos cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 mae'n hysbys bellach pwy sydd wedi cael eu gwahodd i fod yn llywyddion anrhydeddus yn ystod yr wythnos.

Meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Mae'r saith yn adnabyddus i bobl y Brifddinas, ac wedi'u gwahodd oherwydd eu cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol."

Ymhlith y saith mae Huw Llywelyn Davies - wyneb a llais cyfarwydd fel cyflwynydd rhaglenni'r Eisteddfod am flynyddoedd a sylwebydd rygbi. Yn 2008 ef oedd Cadeirydd Eisteddfod y Brifddinas.

Wyneb cyfarwydd arall i'r llwyfan cenedlaethol yw Gwawr Owen - beirniad, cerddor a sylwebydd adnabyddus. Gwawr oedd yn gyfrifol am greu cystadleuaeth Côr Cymru, rhaglen sydd wedi bywiogi canu corawl ar draws y wlad a hi hefyd a sefydlodd Gôr Caerdydd 25 mlynedd yn ôl.

Mae Dai a Gill James yn adnabyddus am eu gwaith diflino yn hyrwyddo digwyddiadau a diwylliant Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn rhan o dîm Cwmni Dawns Werin Caerdydd.

Image copyright Cymorth Cristnogol

Yn cael cynnig i fod yn llywydd anrhydeddus hefyd mae Gill arall - Gill Griffiths, cyn-lywydd Merched y Wawr a Swyddog y Dysgwyr gyda'r Eisteddfod Genedlaethol.

Un arall sydd wedi cyfrannu'n llawer i fywyd diwylliannol yr ardal yw Rhun Jones - cyn-athrawes yn Ysgol Melin Gruffydd ac aelod o Fwrdd Rheoli Menter Iaith Caerdydd.

Ac y mae un artist yn eu plith. Mae Anthony Evans yn artist sydd wedi cofnodi agweddau ar dirwedd Cymru ac sydd wedi arddangos ei waith yn Y Lle Celf amryw o weithiau. Mae e hefyd yn un o sylfaenwyr AWEN - grŵp sy'n hyrwyddo'r celfyddydau drwy gyfrwng y Gymraeg yn ardal Yr Eglwys Newydd.

'Cydnabod cyfraniad unigolion'

Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, "Mae'n bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro'r Eisteddfod. Dyma bobl sy'n gweithio'n ddiflino drwy'r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio. Heb y bobl yma, byddai Caerdydd yn dipyn tlotach ei diwylliant.

"Mae'n braf cyhoeddi enwau'r Llywyddion Anrhydeddus ar gyfer y flwyddyn nesaf gan ddiolch iddyn nhw i gyd am eu hymroddiad, eu gwaith a'u brwdfrydedd dros y blynyddoedd. Edrychwn ymlaen at gydweithio dros y flwyddyn nesaf wrth i'r Eisteddfod agosáu."

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn cael ei chynnal yn ardal y bae o 3-11 Awst y flwyddyn nesaf.

Ddydd Sadwrn bydd yr Eisteddfod yn cael ei chyhoeddi. Fel rhan o'r gweithgareddau bydd gorymdaith liwgar yn cael ei chynnal ddechrau'r prynhawn gan gynnwys cynrychiolwyr o ysgolion, sefydliadau a chymdeithasau lleol ynghyd â Gorsedd y Beirdd.

Pinacl y diwrnod fydd Seremoni'r Cyhoeddi ei hun am 15.00 pan y bydd cerrig symudol yr Orsedd yn cael eu defnyddio ar lawnt y Neuadd.