Gwrthdrawiad Aberteifi: Enwi dyn fu farw

  • 19 Mehefin 2017
Karl Kraus Image copyright Llun Teulu
Image caption Mae Karl Kraus yn gadael gwraig, dau fab a dau o lys blant.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi enwi dyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd yr A487 ym Mhenparc, Aberteifi ddydd Sul.

Bu farw Karl Kraus, 37 oed o Aberteifi wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur Yamaha du, oedd yn teithio i gyfeiriad Aberaeron, a char Volkswagen Golf arian, a oedd yn teithio i gyfeiriad Aberteifi.

Mae Mr Kraus yn gadael gwraig, dau fab a dau llys blant.

Dywedodd gwraig Mr Kraus, Suzi: " Mae'r teulu'n ddiolchgar am eich dymuniadau da, fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi pe bai ein preifatrwydd yn cael ei barchu yn ystod y cyfnod trist ac anodd hwn."

Mae'r Heddlu yn apelio i unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar 101.