Diwrnod cyntaf rhwystredig i fatwyr Forgannwg

Chris Rushworth Image copyright Rex Features
Image caption Llwyddodd Chris Rushworth i gymryd pum wiced i Durham

Roedd hi'n ddiwrnod rhwystredig i fatwyr Morgannwg ar y diwrnod agoriadol ym mhencampwriaeth y siroedd yn erbyn Durham.

Cipiodd Chris Rushworth pum wiced i Durham.

Uchafbwynt Morgannwg oedd cyfraniad Nick Selman wrth iddo gyrraedd sgôr o 103.

Daeth diwrnod Selman i ben wrth iddo gael ei orfodi allan drwy goes o flaen wiced oddi ar fowlio Rushworth.

Fe fydd Morgannwg yn mynd fewn i'r ail ddiwrnod 221-7 yn Chester le Street.