Cyhoeddi gemau tymor nesaf Caerdydd a Chasnewydd

Caerdydd a Chasnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Caerdydd a Chasnewydd yn dechrau eu tymhorau gyda gemau oddi cartref

Mae rhestr gemau Caerdydd a Chasnewydd ar gyfer tymor nesaf wedi cael ei rhyddhau.

Bydd Caerdydd yn dechrau'r tymor oddi cartref yn Burton Albion ar 5 Awst.

Taith i Stevenage fydd yn wynebu Casnewydd, fydd yn chwarae oddi cartref am sawl wythnos tra bydd gwaith yn cael ei wneud ar faes Rodney Parade.

Bydd yr Adar Gleision yn chwarae dwy gêm gartref dros gyfnod y Nadolig, wrth iddyn nhw wynebu Fulham ar 26 Rhagfyr a Preston North End ar 30 Rhagfyr.

Bydd Casnewydd yn treulio'r Nadolig ar y lôn wrth iddyn nhw deithio i Wycombe Wanderers ar ddiwrnod San Steffan a Cheltenham bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

Bydd Neil Warnock a'i dîm yn chwarae gartref ar ddiwrnod olaf y tymor, wrth i Reading ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd ar 6 Mai.

Oddi cartref fydd Casnewydd ar ddiwrnod olaf y tymor, wrth iddyn nhw deithio tua'r gogledd i wynebu Carlisle.