Digwyddiad tanc: Un milwr wedi gadael yr ysbyty

Darren Neilson a Matthew Hatfield Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd Darren Neilson a Matthew Hatfield eu disgrifio fel "milwyr talentog dros ben"

Mae milwr oedd wedi'i anafu yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thanc ar faes tanio yn Sir Benfro wedi ei ryddhau o'r ysbyty.

Bu farw Matthew Hatfield, 27 o Wiltshire, a Darren Neilson, 31 o Sir Gaerhirfryn, pan wnaeth ffrwydron ffrwydro o fewn tanc Challenger yng Nghastell Martin ddydd Mercher diwethaf.

Roedd y ddau yn aelodau o Gatrawd Brenhinol y Tanciau.

Mae un milwr arall yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn, Heddlu Dyfed Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnal ymchwiliad.

Straeon perthnasol