Scott Williams ar y fainc i Gymru yn erbyn Samoa

Scott Williams Image copyright Huw Evans Agency
Image caption Cafodd Scott Williams anaf i'w wyneb yn y fuddugoliaeth dros Tonga

Bydd canolwr Cymru, Scott Williams yn dechrau ar y fainc yn ail gêm brawf y daith haf yn erbyn Samoa ddydd Gwener.

Tyler Morgan o'r Dreigiau sy'n cymryd lle Williams, sydd wedi ennill 47 o gapiau dros ei wlad.

Bydd Cory Allen yn cymryd lle Alex Cuthbert ar yr asgell, tra bod y mewnwr Aled Davies, y prop Dillon Lewis a'r clo Rory Thornton yn cymryd llefydd Gareth Davies, Kristian Dacey a Tomas Francis - sydd wedi ymuno â charfan y Llewod.

Mae clo'r Gweilch, Thornton yn ennill ei gap cyntaf, ac fe allai'r clo Adam Beard a'r mewnwr Tomos Williams hefyd ennill eu capiau cyntaf oddi ar y fainc.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Jamie Roberts: 'Cyfle i greu hanes' yn Samoa

Mae'r blaenasgellwr Ellis Jenkins yn dechrau yn lle Thomas Young, fydd ar y fainc.

Dywedodd yr hyfforddwr, Robin McBryde, bod angen i Gymru fod yn barod am berfformiad cryf gan Samoa wedi colled yn erbyn y Crysau Duon ddydd Gwener.

"Mae angen i ni fod yn barod am ymateb, torf unochrog, ac edrych i geisio adeiladu ar y pethau da wnaethon ni ddangos yn y fuddugoliaeth yn erbyn Tonga."

Tîm Cymru i wynebu Samoa:

Gareth Anscombe (Gleision), Cory Allen (Gweilch), Tyler Morgan (Dreigiau), Jamie Roberts (Harlequins, capt), Steffan Evans (Scarlets); Sam Davies (Gweilch), Aled Davies (Scarlets); Nicky Smith (Gweilch), Ryan Elias (Scarlets), Dillon Lewis (Gleision), Seb Davies (Gleision), Rory Thornton (Gweilch), Aaron Shingler (Scarlets), Ellis Jenkins (Gleision), Josh Navidi (Gleision)

Eilyddion: Scott Baldwin (Gweilch), Wyn Jones (Scarlets), Rhodri Jones (Gweilch), Adam Beard (Gweilch), Thomas Young (Wasps), Tomos Williams (Gleision), Owen Williams (Caerloyw), Scott Williams (Scarlets).

Straeon perthnasol