Graham Clark yn rhoi hwb i Durham yn erbyn Morgannwg

Graham Clark Image copyright Getty Images
Image caption Graham Clark oedd seren y dydd i Durham

Roedd 109 gan Graham Clark yn hwb i Durham yn ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Morgannwg ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Batiodd Clark yn dda gyda'r capten Paul Collingwood mewn partneriaeth o 185, i sicrhau bod ei dîm yn gorffen y diwrnod ar 281 am 4, 14 y tu ôl i Forgannwg.

Yn gynharach yn y dydd, cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 295, gyda Barry McCarthy yn cymryd y tair wiced olaf.

Marchant de Lange oedd y gorau o fowlwyr Morgannwg, gan gymryd tair wiced am 65 o rediadau.