Brwydro 'mlaen

cadfan

Roedd Cadfan Roberts yn wyneb cyfarwydd ar y teledu yng Nghymru yn y 90au, gan chwarae rhan Glan Morris yn Pobol y Cwm.

Mae'n ddyn amryddawn sydd wedi dilyn gyrfaoedd amrywiol ers ei ddyddiau'n actio. Ond dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn dioddef â salwch meddwl. Bu'n dweud ei stori ar Bore Cothi ar Radio Cymru ar fore Gwener, 23 Mehefin ac mae'n rhannu ei brofiadau yma gyda Cymru Fyw:


Popeth yn 'blur'

Wedi fy nyddiau yn Pobol y Cwm nes i symud i'r gogledd-orllewin i fyw a gweithio. Roeddwn yn cynhyrchu ac yn ymchwilio i gwmni a oedd yn gwneud rhaglenni teledu - Tipyn o Stâd yn un. Dwi wedi setlo yn yr ardal ac yn byw yng Ngharmel ger Caernarfon efo'n nheulu.

'Nes i benderfynu i ail-hyfforddi a gwneud cyrsiau i lanhau simneiau (chimney sweep). Dyna beth o'n i'n ei wneud pan ges i ddamwain a olygai bod hi'n anodd i mi blygu, felly roedd hyn wrth reswm yn effeithio ar fy ngwaith.

Fe barhaodd fy anlwc pan ges i ddamwain arall wedyn gan dorri fy mawd i ffwrdd tra'n torri coed ar gyfer y tŷ, ac doedd ddim modd ei ailgysylltu.

Yna un diwrnod ges i 'fflip' tra allan yn siopa, a hynny oedd dechrau fy nervous breakdown rhyw dair mlynedd yn ôl. Es i weld y meddyg, ac i ddweud y gwir dwi ddim yn cofio dim byd - mae popeth yn blur am fisoedd wedi hynny.

Nes i ddechrau ymwneud efo elusen Mind Ynys Môn a Gwynedd, ac maen nhw wedi bod yn help mawr i mi. Mi es i seminar efo nhw yn adrodd fy hanes i ac roedd hynny yn beth reit anodd i'w wneud - sefyll o flaen bobl a siarad am y peth.

Pan ti'n mynd drwy gyfnod fel hyn ti'n colli pob dim; ti'n colli mynadd a dy hunan-falchder. Ar y pryd o'n i'n gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Carmel tra roedd 'na cynlluniau i'w chau, gyda ysgol newydd yn cael ei agor yn Groeslon. Felly mi roedd gen i dipyn ar fy mhlât rhwng bob dim.

O'n i'n mynd drwy bob dydd yn gwisgo gwahanol hetiau - cadeirydd corff y llywodraethwyr, y cyngor plwy, rhiant a gŵr. Doeddwn i methu jyst bod yn fi'n hun - doedd Cadfan ddim yna mewn gwirionedd.

Yna roedd digwyddiad torcalonnus pan wnaeth fy ffrind gorau i ladd ei hun. Roedd o yn fy nhŷ i y noson y digwyddodd y peth i roi cerdyn pen-blwydd i Ben, fy mab hynaf. "Welai chi fory," oedd y peth diwethaf ddywedodd o wrthom ni.

O'n i methu delio gyda hynny ac es i drwy gyfnod o feio'n hun am hynny achos 'nes i ddim rhagweld beth oedd o am wneud. Ond 'nath o ddim roi unrhyw hint bod o am wneud hynny - doedd o ddim i lawr nac yn ypset, er oedd o'n dweud "mae bywyd yn crap" - ond mae pawb yn dweud hynny weithiau.

Image caption Roedd Cadfan yn chwarae rhan y cymeriad poblogaidd Glan yn Pobol y Cwm yn yr 1990au

Cefnogaeth

Yn ogystal â'r arbenigwyr o Mind, nes i hefyd ddod yn agos i rai o'r bobl eraill oedd yn mynychu'r cyrsiau - mae rhai ohonyn nhw'n ffrindiau da i mi bellach a dwi'n poeni amdanyn nhw'n fawr.

Pan o'n i'n mynd drwy gyfnod o salwch meddwl nes i ddeall pwy oedd fy ffrindiau go iawn. Does 'na ddim llawer o help wedi bod yn y gorffennol i bobl efo salwch meddwl, ac yn sicr mae stigma wedi bod.

Roedd 'na hen agwedd o "pull yourself together" neu "snapia allan o'na fo" - dydi hynna ddim yn digwydd, allai ddweud wrtha chi.

Ond dwi'n meddwl bod 'na help bellach am ei fod o wedi dod mwy i'r amlwg. Wedi hunanladdiad fy ffrind nes i gymhwyster suicide intervention gyda Mind, sy'n golygu mod i'n barod i helpu'r rhai sy'n cyrraedd y fath stad.

Mae plant yn dioddef hefyd, ac dwi'n meddwl bod y pwysau ar blant dyddiau 'ma'n uffernol. Maen nhw'n cael straen yn yr ysgol, peer pressure, rhwydweithiau cymdeithasol, bwlio...

Mae mwy a mwy o bobl yn diodde', a fy neges i ydi: Mae'n ocê. Mae'n iawn. Dydi o ddim yn beth drwg, allwch chi ddim helpu'r peth, peidiwch â phoeni.

Os 'da chi'n dioddef, ewch at y doctor, gan obeithio y bydd o'n gwrando ac yn gallu eich pasio ymlaen at rywun all gynnig cymorth.

Trawiad

Fis Awst y llynedd ges i drawiad enfawr, gyda 90% blockage yn un o rydwelïau fy nghalon - doedd yr arbenigwr ddim yn deall sut nes i fyw. Dwi 'di cael stent, ond gyda lwc doedd dim niwed hirdymor i'r galon.

O'n i'n meddwl mod i'n marw yn yr ambiwlans achos doeddwn i methu clywed dim, ac i ddweud y gwir o'n i'n siŵr mod i wedi marw ac yn meddwl mai rhyw electronic impluse oedd yn fy mhen neu mod i'n breuddwydio.

Dwi'n cerdded lot dyddia' 'ma ac yn cymryd lot o dabledi, ac oherwydd y tabledi rhaid mi fod yn ofalus mod i ddim yn torri fy hun gan fod fy ngwaed yn denau. Dwi hefyd wedi stopio smocio, wedi 45 mlynedd o wneud - dwi heb wneud ers y trawiad.

Image copyright S4C
Image caption Roedd Glan yn rhedeg tafarn Y Deri gyda Jean McGurk (Iola Gregory)

Ond dwi dal yn diodda o'r salwch meddwl, ac mae'n uffernol mynd i'r gwely bob nos gan feddwl 'a fydda i yma yn y bore?' oherwydd nam ar y galon... ac alla i ddim cael gwared o hynny.

Ond dwi yn delio dyddia 'ma, ac mae 'na dechnegau sy'n fy helpu i wneud a'r gobaith ydi y bydda i'n gwella o'r cyflwr.

Dwi'n ystyried fy hun fel cymeriad cryf, a oedd yn ei gwneud hi'n anodd pan ddechreuodd y graig gracio. Mae'n anodd i'r bobl o'ch cwmpas chi hefyd, achos 'da chi'n newid o fod yn rhywun sydd yn helpu pawb arall, i ddweud 'dwi isho help hefyd'.

Mewn ffordd mae'r salwch yn eich troi chi'n hunanol, ond dyna mae'n rhaid gwneud mewn amser fel 'na - meddwl am eich hunain a chanolbwyntio ar wella. Mae'n beth uffernol a dwi'n cydymdeimlo ag unrhywun sy'n mynd drwy gyfnod o salwch meddwl - mae'n gallu bod yn lle tywyll iawn.