Ar y grocbren

Roeddwn i dal yn grwt ysgol yn ôl yn Chwefror 1974 ond rodd y byg gwleidyddol eisoes wedi fy mrathu a threuliais noson yr etholiad hwnnw yng nghyfri hen etholaeth Gogledd Orllewin Caerdydd, caer Ceidwadol nad oes mo'i debyg yng Nghymru bellach.

Yn y dyddiau hynny roedd y rheolau ynghylch cyfrinachedd y cyfri yn llawer mwy llym nac y'n nhw heddiw. Roedd ffonau symudol degawdau yn y dyfodol a chyda setiau radio wedi eu gwahardd o'r Deml Heddwch doedd dim modd gwybod beth ar y ddaear oedd yn digwydd y tu hwnt i'r drysau nes i'r swyddog ein rhyddhau yn oriau mân y bore.

Fel yn 2017 roedd 'na sioc yn ein disgwyl. Roedd Ted Heath wedi gamblo trwy alw etholiad cynnar gan ofyn y cwestiwn 'Pwy sy'n rheoli Prydain - fi neu'r glowyr?' Roedd yr ateb yn amwys ond gellir ei grynhoi fel hyn efallai - ni ti, gwd boi!

Roedd Harold Wilson yn ôl yn Downing Street ond gyda chenedlaetholwyr Cymru a'r Alban wedi ennill seddi mewn etholiad cyffredinol am y tro cyntaf, senedd grog oedd yn ei wynebu. Nid dim ond senedd grog chwaith ond y senedd fwyaf crogyddol o groglyd a welodd dyn erioed. Pedair sedd oedd yn gwhanu'r ddwy blaid fawr ac roedd ffawd y Llywodraeth yn dibynnu ar 37 o aelodau o'r pleidiau llai.

Doedd dim dewis mewn gwirionedd ond galw etholiad arall, etholiad wnaeth sicrhau mwyafrif bychan i Wilson - un wnaeth raddol ddiflannu dros y blynyddoedd dilynol. Fel John Major mewn sefyllfa digon tebyg ar ôl etholiad 1992, fe lwyddodd Wilson a Callaghan ar ei ôl i ddal eu gafael ar rym am bron senedd gyfan cyn i'r hwch fynd trwy'r siop. Yn y drefn Brydeinig nid ar chware bach y mae dymchwel Llywodraeth yn groes i ewyllys y blaid fwyaf.

Er nad oes gan y blaid fwyafrif mae'n ymddangos i mi bod sefyllfa'r Ceidwadwyr yn y senedd newydd yn gryfach nac mae'n ymddangos a dydw i ddim yn un o'r rheiny sy'n credu bod ail etholiad yn anorfod rhywbryd yn ystod hanner cyntaf y senedd hon.

Gadewch i ni edrych ar y ffyrdd posib y gallasai etholiad gael ei alw.

Y ffordd fwyaf amlwg yw'r un a ddigwyddodd yn ddiweddar gyda'r Ceidwadwyr o dan arweinydd newydd yn penderfynu gofyn i'r etholwyr am fandad o'r newydd. Mewn amgylchiadau felly mae'n annhebyg y byddai Llafur yn ceisio defnyddio rheolau'r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol i'w rhwystro.

Arhoswch eiliad. Ar ôl gwylio Theresa May yn bratu mantais enfawr yn y polau fe fyddai angen arweinydd dewr iawn i ddilyn ei hesiampl ac mewn gwleidyddiaeth mae dewrder a ffolineb yn gyfystyr. Ydych chi'n gallu dychmygu arweinydd Ceidwadol yn llwyddo i argyhoeddi ei blaid fod etholiad cynnar yn syniad da - i fartsio i gyfeiriad y grocbren? Na finnau, chwaith.

Wrth gwrs pe bai Jeremy Corbyn yn gallu corlannu holl ddeiliaid meinciau'r gwrthbleidiau fe fyddai modd gorfodi etholiad trwy bleidlais o ddiffyg hyder ond gyda Sinn Fein yn absennol a'r DUP yn ei gasáu mae'r senario'n annhebygol a dweud y lleiaf.

Mae 'na un posibilrwydd arall a allai arwain at etholiad cynnar. Mae modd i lywodraethau marw o flinder. Dyna ddigwyddodd i lywodraeth Attlee yn 1951 pan oedd y fathemateg seneddol yn achosi digon o artaith i'w berswadio i alw etholiad gan wybod bod colli yn bosibilrwydd go iawn.

Gallasai'r opsiwn olaf 'na ddigwydd ond dydw i ddim yn dal fy anadl. Dyma fy nghyngor i fy nghydweithwyr. Na phoener, bwciwch eich gwyliau!