Juliana Hughes wedi marw yn 75 oed

Juliana Hughes

Bu farw'r Ynad Heddwch a'r gwleidydd, Juliana Hughes.

Roedd yn 75 oed ac yn byw yn Rhydargaeau ger Caerfyrddin.

Bu'n aelod o'r fainc yn y llys yng Nghaerfyrddin am chwarter canrif.

Bu'n aelod ac yn ymgeisydd seneddol ar ran Democratiaid Rhyddfrydol, cyn gadael y blaid a throi at y Ceidwadwyr.