Araith y Frenhines: 'Adeiladu consensws' ar Brexit

Y Frenhines a'r Tywysog Charles Image copyright PA
Image caption Y Tywysog Charles oedd gyda'r Frenhines ar gyfer yr araith, gan fod Dug Caeredin yn yr ysbyty

Mae'r Frenhines wedi dweud mai un o flaenoriaethau'r llywodraeth nesaf fydd "adeiladu consensws" ar Brexit er mwyn sicrhau'r "fargen orau".

Wrth draddodi Araith y Frenhines er mwyn agor y senedd newydd yn swyddogol, dywedodd y byddai llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r pleidiau eraill a'r cyrff datganoledig wrth baratoi i adael yr UE.

Roedd hi'n araith fyrrach na'r arfer, gyda'r prif weinidog Theresa May eto i gadarnhau rhannau helaeth o'i chynlluniau deddfwriaethol.

Mae'r Ceidwadwyr yn parhau i fod mewn trafodaethau â'r DUP o Ogledd Iwerddon ar ôl methu a sicrhau mwyafrif yn San Steffan yn yr etholiad cyffredinol.

'Cydweithio agosach'

Tywysog Cymru oedd gyda'r Frenhines ar gyfer yr araith ddydd Mercher, a hynny wedi i Ddug Caeredin orfod mynd i'r ysbyty nos Fawrth fel "cam rhagofalus" oherwydd haint oedd wedi codi oherwydd cyflwr oedd ganddo'n barod.

Roedd Brexit yn un o brif bynciau'r araith, gyda'r Frenhines yn dweud y byddai'r DU yn gobeithio parhau i gynnal eu "perthynas ddofn ac arbennig" ag Ewrop ar ôl gadael.

O'r 24 mesur gafodd eu cyhoeddi, mae wyth ohonynt yn ymwneud â Brexit a'r goblygiadau ar gyfer diwydiannau pwysig.

Bydd y Bil Diddymu Mawr yn trosglwyddo cyfreithiau Ewropeaidd yn rhai Prydeinig, a bydd mesurau eraill hefyd ar fasnachu, tollau, mewnfudo, amaeth a physgota.

Image caption Theresa May a Jeremy Corbyn yn cyrraedd ar gyfer Araith y Frenhines

Gohebydd Seneddol BBC Cymru, Elliw Gwawr:

"Fe gyrhaeddodd y Frenhines mewn car, nid coets aur, gan wisgo het nid coron.

"Oherwydd yr etholiad brys, roedd hon yn seremoni heb y rhwysg a'r rhodres arferol.

"Ond o ystyried ein bod mewn cyfnod anarferol yn wleidyddol, efallai bod hynny'n addas.

"Dyma araith ar gyfer dwy flynedd nid un, gyda rhan helaeth o waith y llywodraeth dros y cyfnod nesaf yn canolbwyntio ar Brexit."

Darllenwch ragor o ddadansoddiad Elliw Gwawr yma.


Fe bwysleisiodd y Frenhines hefyd y byddai'r llywodraeth yn ceisio cydweithio'n agosach â gwahanol wledydd y DU yn ystod y senedd nesaf.

"Bydd hi'n flaenoriaeth i geisio adeiladu gwlad fwy unedig, gan gryfhau'r cysylltiadau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol rhwng Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru," meddai.

"Bydd fy llywodraeth i'n gweithio mewn partneriaeth â'r sefydliadau datganoledig, a bydd yn gweithio gyda phob plaid yng Ngogledd Iwerddon er mwyn ceisio ailsefydlu llywodraeth ddatganoledig."

Roedd yr araith hefyd yn cynnwys addewidion gan gynnwys bwrw ymlaen gyda phrosiect HS2, cynyddu'r isafswm cyflog, gwario 2% o GDP ar amddiffyn. ac adolygu strategaeth terfysgaeth y llywodraeth yn sgil ymosodiadau Llundain a Manceinion.

Image copyright AFP

Ond roedd yr araith yn brin o fanylion ar bolisïau eraill, gan gynnwys newidiadau i bensiynau a gofal cymdeithasol oedd wedi eu cynnwys ym maniffesto'r Ceidwadwyr ar gyfer yr etholiad.

Doedd dim sôn chwaith am ymweliad gwladol gan arlywydd yr UDA, Donald Trump.

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal ar gynnwys yr Araith yn y senedd ddydd Iau nesaf, gyda'r gwrthbleidiau yn gobeithio mai dyna fydd eu cyfle nhw i herio llywodraeth leiafrifol Theresa May.

Mae Mrs May eisoes wedi cyhoeddi y bydd Araith y Frenhines 2018 yn cael ei chanslo oherwydd bod angen digon o amser i basio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol ar Brexit - ond mae'r gwrthbleidiau yn dweud ei bod yn poeni na fydd ganddi ddigon o gefnogaeth i basio araith arall ymhen blwyddyn.

'Amarch'

Wrth ymateb i Araith y Frenhines, roedd gan arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies rybudd ynglŷn â'r cytundeb posib rhwng ei blaid ef yn San Steffan a'r DUP.

"Mae'n rhaid i unrhyw gymhelliant sydd yn cael ei ystyried ar gyfer un cenedl er mwyn sicrhau mwyafrif, hefyd gael ei ystyried ar gyfer Cymru," meddai.

Dywedodd Christina Rees, llefarydd Llafur ar Gymru yn San Steffan fod yr araith yn dangos yr "amarch" oedd gan y Ceidwadwyr tuag at Gymru, ac nad oedd "unrhyw weledigaeth nac agenda" yn perthyn iddi.

Ychwanegodd Liz Saville Roberts fod diffyg "sylwedd" i'r cynlluniau, ac na fyddai "geiriau cynnes yn amddiffyn Cymru" yn absenoldeb unrhyw addewidion cadarn.