Cytundeb DUP: 'Ffordd gyfrwys o ariannu Gogledd Iwerddon'

Carwyn Jones
Image caption Yn ôl Carwyn Jones gallai Cymru ddioddef yn ariannol yn sgil cytundeb y Ceidwadwyr a'r DUP

Mae prif weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi rhybuddio y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio ffordd gyfrwys i roi mwy o arian i Ogledd Iwerddon, a hynny ar draul Cymru.

Roedd Mr Jones yn ymateb i adroddiadau bod plaid y DUP wedi gofyn am fuddsoddiad o £2bn fel rhan o gytundeb gyda'r Ceidwadwyr yn San Steffan.

Dadl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns yw bod amgylchiadau'r ddwy wlad yn wahanol.

Wedi dyddiau o drafod does 'na ddim cytundeb eto rhwng y Ceidwadwyr a'r DUP, wedi i'r Ceidwadwyr fethu â sicrhau mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol.

'Llwgrwobrwyo gwleidyddol'

Fel rhan o'r trafodaethau mae'n ymddangos fod y DUP yn galw am fuddsoddiad sylweddol o tua £1bn yng ngwasanaeth iechyd Gogledd Iwerddon. Maen nhw hefyd yn galw am fuddsoddiad mewn prosiectau adeiladu.

Wrth ymateb i'r adroddiadau, dywedodd Mr Jones: "Mae'n ymddangos bod llwgrwobrwyo gwleidyddol yn digwydd yma. Beth ry'n ni'n ei weld yw ymgais i gael mwy o arian i Ogledd Iwerddon, a phetawn i'n cynrychioli'r DUP mi fuaswn i'n gwneud yr un fath.

"Ond realiti pethau yw nad oes modd rhoi arian i Ogledd Iwerddon heb danio fformiwla Barnett, ac fe fyddai hynny yn golygu mwy o arian i Gymru a'r Alban. Mi fyddwn i'n croesawu hynny."

Ychwanegodd y prif weinidog: "Ond dwi ddim yn gweld nhw yn 'neud hynna. Rwy'n credu y bydd pob llwybr yn arwain at roi arian ychwanegol i Ogledd Iwerddon, a hynny ar draul Cymru, yr Alban a rhanbarthau Lloegr."

Image caption Yn ôl Carwyn Jones gallai Cymru ddioddef yn ariannol yn sgil cytundeb y Ceidwadwyr a'r DUP

Mae Fformiwla Barnett yn gyfrifiad mathemategol sy'n dosbarthu arian i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fel rhan o'r trafodaethau mae adroddiadau bod y DUP yn galw ar y Trysorlys i gael gwared â Tholl Teithwyr Awyr yng Ngogledd Iwerddon. Mae pwerau dros dollau o'r fath eisoes wedi cael eu trosglwyddo i'r Alban ac mae Carwyn Jones wedi galw am ddatganoli'r tollau.

Ategodd Carwyn Jones: "Os bydd San Steffan yn cael gwared â'r tollau yng Ngogledd Iwerddon fel rhan o gytundeb rhwng y Toris a'r DUP, bydd hynny yn dangos bod llywodraeth Prydain wedi'i datgymalu.

"Ers amser rwy' wedi bod yn dweud bod yn rhaid i ni eistedd lawr a gweld i ba gyfeiriad y dylid arwain y DU yn y dyfodol.

"Ar hyn o bryd dyw'r Llywodraeth na'r Trysorlys ddim i weld yn deall beth sydd angen ei wneud i sicrhau sefydlogrwydd y DU.

"Maent yn hapusach yn prynu pleidleisiau a dyw hynny ddim yn safle cynaliadwy."

'Un cyfeiriad'

Ond mae'r Athro Gerry Holtham, economegydd a chyn-ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru, wedi dweud fod fformiwla Barnett "yn gweithio i un cyfeiriad yn unig" - sicrhau bod unrhyw newidiadau i wariant yn Lloegr yn cael eu hadlewyrchu yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon.

Ychwanegodd mai "confensiwn" oedd y fformiwla, nid rheol bendant, mewn sylwadau ar raglen Today ar BBC Radio 4.

"Os yw'r llywodraeth yn penderfynu anwybyddu'r fformiwla, ac ar sawl achlysur dyna maen nhw wedi ei wneud, dyna wnawn nhw," meddai.

"Fe wnawn nhw wneud unrhyw beth allan nhw ei wneud heb gael eu cosbi, yn y bôn. Os yw'r pwysau ar gyfer tegwch yn tyfu'n wleidyddol maen bosib y gwnawn nhw gyfaddawdu, ond does dim rhaid iddyn nhw wneud."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Mae gan bob rhan o'r DU setliad ariannol cwbl wahanol, meddai Ysgrifennydd Cymu Alun Cairns

Wrth ymateb i'r pryderon gafodd eu codi gan Carwyn Jones, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns fod y ddwy wlad yn wahanol.

Ychwanegodd fod Cymru yn manteisio ar fuddsoddiad gwahanol - buddsoddiadau fel y bargeinion dinesig.

Dywedodd: "Mae Cymru yn cael £120 am bob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr - mae Cymru yn elwa ar fargeinion dinesig - mae 'na un i Gaerdydd, Abertawe ac ymrwymiad i economi'r Gogledd - does 'na ddim bargen ddinesig i Ogledd Iwerddon.

"Mae hyn yn dangos bod gennym record hir a chadarn ac rwy'n gobeithio bod hynny yn cael ei gydnabod."