Durham â'r fantais yn erbyn Morgannwg

Marchant de Lange Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Fe gymrodd Marchant de Lange bum wiced i Forgannwg

Fe wnaeth Morgannwg orffen y trydydd diwrnod ar 92-2 yn erbyn Surrey ar ôl iddyn nhw orffen y batiad cyntaf 107 rhediad y tu ôl.

Roedd y rhediadau'n dod yn araf yn y prynhawn, gyda Matty Potts yn cymryd y ddwy wiced i'r tîm cartref.

Yn gynharach, fe wnaeth Durham golli pum wiced am chwe rhediad yn eu batiad nhw, gyda Marchant de Lange yn cymryd pum wiced i Forgannwg.

Ond fe wnaethon nhw adfer i gyrraedd sgôr o 402.

Bydd Morgannwg felly'n gobeithio batio am rannau helaeth o'r diwrnod olaf ddydd Iau mewn ymdrech i sicrhau gêm gyfartal.

Straeon perthnasol