Thomas a Rowe yn nhîm Sky ar gyfer y Tour de France

Luke Rowe a Geraint Thomas Image copyright Getty Images

Mae Sky wedi cynnwys Geraint Thomas a Luke Rowe yn eu tîm ar gyfer y Tour de France eleni.

Roedd y ddau Gymro hefyd yn rhan o'r garfan llynedd, pan wnaethon nhw gynorthwyo Chris Froome wrth iddo ennill y ras am y trydydd gwaith.

Gorffennodd Thomas yn 15fed yn y Tour de France llynedd, yr un safle ag yr oedd yn 2015.

Y beicwyr eraill fydd yn cynorthwyo Froome unwaith eto eleni fydd Sergio Henao, Vasily Kiryienka, Christian Knees, Michal Kwiatkowski, Mikel Landa a Mikel Nieve.