Yr Athro Marc Clement, cadeirydd cwmni Calon yn esbonio manteision y pwmp
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pwmp calon am wella 'ansawdd bywyd'

22 Mehefin 2017 Diweddarwyd 17:07 BST

Mae pwmp calon artiffisial cyntaf Prydain gam yn nes, meddai gwyddonwyr.

Cwmni Calon Cardio sydd yn ei ddatblygu ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae disgwyl i'r treialon clinigol ddechrau diwedd 2018.

Mae'r pwmp yn cael ei osod yn y galon ddiffygiol ac fe ddylai bara am tua 10 mlynedd.

Yn ôl cadeirydd cwmni Calon Cardio, Marc Clement, fe fydd y pwmp yn gwneud gwahaniaeth i "ansawdd bywyd" y cleifion.