Marwolaeth Caerffili: Cyhuddiad cyffuriau

car heddlu ar ffordd Mynydd Caerffili
Image caption Cafodd yr heddlu eu galw i Ffordd Mynydd Caerffili yn ystod oriau mân bore Sul 19 Mehefin

Mae bachgen 16 oed o Gaerffili wedi ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â chyffuriau ar ôl marwolaeth merch yn y sir.

Bu farw Shauna Davies, 15 ac o Gaerffili, yn oriau man ddydd Sul 18 Mehefin.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal oddi ar Ffordd Mynydd Caerffili yn dilyn pryderon am iechyd y ferch.

Mae pedwar o bobl eraill oedd yn cael eu holi wedi'r digwyddiad wedi cael eu rhyddhau tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

Mae ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad yn parhau.