Brexit: 'Cwestiynau yn parhau' ynglŷn â rôl Cymru

Dr Huw Pritchard

Mae'n flwyddyn ers i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd ac mae'r trafodaethau ynglŷn â gadael yr undeb gyda'r arweinwyr Ewropeaidd eraill wedi dechrau.

Ond beth fydd oblygiadau hyn i gyd i Gymru?

Dr Huw Pritchard, darlithydd yn y Gyfraith a Llywodraethiant Ddatganoledig yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd sydd yn rhoi ei asesiad o'r sefyllfa.

Blwyddyn wedi'r refferendwm ar adael yr UE, mae cwestiynau sylfaenol ynglŷn â'r goblygiadau i ddatganoli yn parhau'n aneglur.

Yn ogystal â pherthynas Prydain a'r Undeb Ewropeaidd, bydd angen ymdrin â'r her i drefn ddatganoli ym Mhrydain.

Er hynny, nid oes llawer o eglurder ynglŷn ag effaith Brexit ar sefydliadau a grymoedd Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae safbwyntiau Llywodraeth Prydain a'r llywodraethau datganoledig wedi bod ar begynau ar wahân o'r cychwyn.

Gan fod nifer o'r meysydd fydd yn 'dychwelyd' o'r UE yn rhai sydd wedi eu datganoli, fel amaeth ac amgylchedd, dadl llywodraethau Cymru a'r Alban yw mai'r sefydliadau datganoledig yw cartref priodol y pwerau hynny.

Ond, bwriad Llywodraeth Prydain yw creu fframweithiau Prydeinig i gymryd lle fframweithiau Ewropeaidd er mwyn diogelu marchnad sengl fewnol Brydeinig.

Mae tensiwn anorfod felly yn safbwyntiau'r llywodraethau.

Cymru yn y drafodaeth

Addawodd Theresa May ym mis Ionawr y byddai'r llywodraethau datganoledig yn rhan lawn o'r broses o adael yr UE.

Sefydlwyd Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar gyfer hynny ar ddechrau'r flwyddyn.

Er hynny, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, wedi bod yn agored yn ei feirniadaeth o'r cyd-bwyllgor fel proses anhrefnus a rhwystredig.

I raddau, roedd hyn i'w ragweld gan fod y cyd-bwyllgor wedi ei sylfaenu ar system oedd eisoes yn amherffaith.

Image caption Mae Carwyn Jones wedi dweud bod gadael yr UE yn rhoi cyfle i "ail-lunio a chryfhau" y DU

Bydd y tensiynau hyn yn cael effeithiau uniongyrchol wrth i drafodaethau Brexit fynd yn eu blaen dros y ddwy flynedd nesaf.

Ond, dylid cadw llygaid hefyd ar y berthynas hirdymor. Drwy sefydlu fframweithiau Prydeinig bydd galw am fwy o gydweithio llywodraethol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer cryfhau'r broses drwy sefydlu Cyngor Gweinidogion y DU sy'n fwy cydweithredol.

Er nad yw Llywodraeth Prydain yn cydweld â hynny ar y funud mae hon yn fater ble bydd angen ymateb cadarnach dros y blynyddoedd nesaf er mwyn sicrhau bod llais llywodraethau Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn cael chwarae teg.

Y Bil Diddymu

Y cam domestig nesaf ar gyfer Brexit fydd cyflwyno Bil Diddymu er mwyn trosglwyddo cyfreithiau Ewropeaidd i gyfraith Brydeinig a sicrhau nad oes bylchau yn y gyfraith ar ôl gadael yr UE.

Er cyhoeddi papur gwyn ar gyfer y Bil, a'i gynnwys yn araith y Frenhines, prin yw'r goleuni hyd yn hyn ar hyd a lled yr effaith ar rymoedd Cymru.

Bydd y bil yn rhoi grymoedd i Lywodraeth Prydain i wirio'r corff helaeth o gyfreithiau sydd angen eu newid ar ôl gadael yr UE.

Mae disgwyl y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn pwerau tebyg ar gyfer gwneud hyn yng Nghymru.

Ond nid oes sicrwydd eto ynglŷn ag i ba raddau y bydd gan Lywodraeth Cymru ryddid i wirio ac adolygu cyfreithiau sy'n gymwys yng Nghymru ond sydd wedi deillio o Ewrop.

Image caption Yn ôl Dr Huw Pritchard mae cwestiynau mawr dal i fodoli ynglŷn â lle Cymru yn y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd

Mewn adroddiad arwyddocaol, mae'r Cynulliad hefyd wedi pwysleisio ei rôl gyfansoddiadol ar gyfer craffu ar y cyfreithiau hynny.

Mae hefyd cwestiwn pwysig ynglŷn ag a fydd angen i San Steffan gael cydsyniad y Cynulliad ar y Bil Diddymu ei hun gan y bydd yn effeithio ar rymoedd datganoledig.

Er i'r Goruchaf Lys ddyfarnu nad oes sail gyfreithiol i hynny ni ddylid diystyru arwyddocâd grym a phwysau gwleidyddol.

Cwestiynau sylfaenol heb eu hateb

Drwy'r broses hyd yma mae addewidion na fydd Llywodraeth Cymru yn colli penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ganddo ar hyn o bryd.

Ond, wrth i fframweithiau Prydeinig ymddangos, dros amaeth a physgodfeydd er enghraifft, mae risg y bydd Llywodraeth Cymru yn colli rhai o'r grymoedd sydd ganddo eisoes mewn meysydd datganoledig wrth i Lywodraeth Prydain osod fframweithiau canolog.

Cyd-destun arwyddocaol arall yng Nghymru yw bod disgwyl i fodel newydd o ddatganoli, a basiwyd drwy Ddeddf Cymru 2017, ddod i rym yn ystod y flwyddyn nesaf.

Wedi'r flwyddyn gyntaf, mae cwestiynau sylfaenol yn parhau ynglŷn â lle Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad mewn proses fydd yn gweddnewid sylfaen datganoli yn y Deyrnas Gyfunol am byth.

Straeon perthnasol