Morgannwg yn colli i Durham yn Chester-le-Street

Morgannwg Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Marchant de Lange yn bowlio i Forgannwg

Mae Morgannwg wedi colli i Durham yn y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Chester-le-Street.

Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i Durham wrth iddyn nhw sgorio 158-1 yn eu hail fatiad i ennill yr ornest.

Yn gynharach sgoriodd Colin Ingram 70 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd 263 yn eu hail fatiad.

Ond dim ond 156 oedd ei angen ar Durham i ennill, oedd yn gyfforddus wrth i Stephen Cook sgorio 89 heb fod allan i'r tîm cartref.

Durham

Batiad cyntaf: 402

Ail fatiad: 158 am 1

Morgannwg

Batiad cyntaf: 295

Ail fatiad: 263