Dau gynllun hydro newydd yn agor ym Methesda a Llanberis

Ynni Padarn Peris

Mae dwy gymuned yng ngogledd Cymru wedi agor eu mentrau cymdeithasol yn swyddogol ddydd Sadwrn ble bydden nhw'n cynhyrchu ynni o afonnydd ac yn gwneud arian yr un pryd.

Bydd trigolion Llanberis a Bethesda yn derbyn eu cyflenwad trydan o gynllun hydro newydd drwy ddefnyddio dŵr glaw sy'n disgyn yn Eryri.

Mae'r dŵr sy'n llifo yn Afon Goch ger Llanberis ac Afon Ogwen ym Methesda yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu trydan drwy ddefnyddio technoleg hydro.

Mae mentrau hydro Padarn Peris a Dyffryn Ogwen yn ddau o nifer o gynlluniau tebyg sydd bellach yn gwerthu trydan i'r grid cenedlaethol.

Bydd y cynllun yn cyflenwi trydan i drigolion cymunedau sydd wedi cyfrannu £700,000 rhwng y ddau brosiect.

Image caption Roedd nifer wedi troi fyny i agoriad swyddogol Ynni Padarn/Peris

Mae'r corff syn cynrychioli mentrau fel Ynni Padarn yn dweud fod cynnydd yn nhrethi'r mentrau, ar gyfartaledd o 300%.

Mae llywodraeth yr Alban yn cynnig ad-daliad trethi busnes i fentrau cymunedol o'r fath 100%, tra bod unrhyw gynnydd yn Lloegr ddim mwy na £600.

Mae gobaith bydd y fenter yn gwneud elw i'r bobl sydd wedi buddsoddi yn y ddau gynllun.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ynni Ogwen / Peris, Keith Jones, fyddai pobl yn derbyn rhwng £25,000 i £40,000 yn ôl i'r cymunedau i helpu gyda phrosiectau cynaliadwy.

Ond ychwanegodd bod pryder ynglŷn â faint o drethi busnes bydd yn rhaid ei dalu.

"Dwi'n gofyn i lywodraeth San Steffan am help.

"Rydym yn gwybod bod rhaid i ni dalu trethi, mae hynny ond yn deg ond pan mae 30% o'ch elw cyfan yn mynd ar dreth, does 'na'r un busnes yn gallu goroesi", meddai.

Image caption Mae cyfarwyddwr Ynni Padarn/Peris yn pryderu am y trethi busnes sy'n wynebu prosiectau ynni cymunedol

Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon, Sian Gwenllian agorodd y cynllun yn swyddogol yn Llanberis ac mae hi'n awyddus i geisio datrys y broblem dreth.

"Mae 'na ateb reit syml i'r broblem," meddai.

"Mae'r Alban wedi rhoi gostyngiad i gynlluniau ynni cymunedol fel bod nhw ddim yn gorfod talu cymaint ar drethi busnes.

"Mi fase gostyngiad yn gwneud byd o wahaniaeth neu mae peryg i'r elw cymunedol fynd ar goll a'i lyncu yn llwyr ar drethi busnes.

"Mae 'na weledigaeth i gynyddu ynni cymunedol ar un llaw ond ychydig bach o ddal yn ôl pan mae'n dod at helpu'r cynlluniau hynny ar drethi busnes.

"Mi fyddai cael gostyngiad yn arwydd clir fod Llywodraeth Cymru o blaid ynni adnewyddol, meddai."

Image caption Mae Sian Gwenllian AC yn awyddus i weld gostyngiad yn nhaliad treth busnes prosiectau ynni cymunedol

Dwedodd llefarydd ar ran Mark Drakeford Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid a llywodraeth leol: "Bydd cynllun newydd o gymorth gyda threthi busnes yn cael ei gyflwyno flwyddyn nesa."

Dywedodd hefyd ei fod yn "barod i wrando ar geisiadau unigol".