Etholiad: Ceidwadwyr yn gwadu torri cyfraith ymgyrchu

Ballot box

Mae'r blaid Geidwadol wedi gwrthod honiadau eu bod wedi torri'r gyfraith drwy ddefnyddio canolfan alw yng Nghastell-nedd i ffonio etholwyr yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol.

Roedd ymchwiliad gan Channel 4 yn honni bod y Ceidwadwyr wedi rhoi cytundeb i gwmni Blue Telecoms i gynnal ymgyrchoedd marchnata cyn y bleidlais ar 8 Mehefin.

Mae swyddog ar ran y Comisiynydd Gwybodaeth wedi cadarnhau y bydd yn holi'r Torïaid am y galwadau.

Yn ôl llefarydd a ran y Ceidwadwyr mae'r galwadau yn unol â gofynion y gyfraith.

Mae cais wedi ei wneud i gwmni Blue Telecoms am sylw.

Cyfraith etholiadol

Nos Iau fe honnodd ymchwiliad cudd gan Newyddion Channel 4 bod gweithwyr wedi bod yn cael eu talu am ganfasio wrth hybu prif negeseuon y blaid Geidwadol i bleidleiswyr oedd yn ansicr am sut oeddent yn mynd i bleidleisio.

Mae cyfraith etholiadol yn gwahardd gweithred o'r fath.

Honnodd yr ymchwiliad bod galwadau wedi eu gwneud i bleidleiswyr yn y prif seddi ymylol, gan gynnwys Pen-y-bont, Gŵyr, De Clwyd a Wrecsam.

Ar ddechrau'r ymgyrch fe gysylltodd y Comisiynydd Gwybodaeth, Elizabeth Denham, gyda phob plaid er mwyn eu hatgoffa o'r gyfraith yn ymwneud â marchanta uniongyrchol.

Gwrthod yr honiadau

Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi gwrthod yr honiadau gan ddweud: "Mae pleidiau gwleidyddol o bob lliw yn talu am ymchwil y farchnad ac am alwadau marchnata uniongyrchol.

"Mae pob sgript sydd wedi'i rhoi gan y blaid ar gyfer y galwadau yma yn ufuddhau i'r rheolau sy'n ymwneud â diogelu data a chyfraith gwybodaeth."

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiynydd Gwybodaeth y bydd yn gweithredu yn erbyn unrhyw blaid na sydd wedi "dilyn y canllawiau".

Ychwanegodd: "Byddwn yn gofyn i'r Blaid Geidwadol am yr ymgyrchoedd marchnata a gafodd eu cynnal o'r swyddfa yng Nghastell-nedd."