Dod o hyd i gyn gynghorydd a'i wraig yn farw mewn gardd

Tony a Faith Williams Image copyright Dr Ruth Williams
Image caption Cafodd Tony a Faith Williams eu canfod yn farw ddydd Sul yn eu gardd

Mae plismyn yn ymchwilio wedi i gyn gynghorydd a'i wraig gael eu canfod yn farw yn eu gardd ym Mro Morgannwg.

Cafwyd hyd i gyrff Tony Williams, 86, a'i wraig Faith y tu allan i'w cartref yn Llanddunwyd ddydd Sul.

Roedd Tony Williams yn arfer cynrychioli Llanbedr-y-fro fel cynghorydd.

Dywedodd ei merch Ruth Williams: "Rwy'n credu bod dad wedi mynd allan â lladdwr chwyn ac wedi cwympo a bod mam wedi mynd allan i helpu."

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau nad ydynt yn trin marwolaeth sydyn y ddau fel achos amheus.

Cafodd y gwasanaeth ambiwlans eu galw i'r tŷ am 21:45 ac mae'r heddlu yn dweud i'w marwolaethau gael eu cofnodi toc wedi 21:30 nos Sul.

Dywedodd Dr. Williams bod ei rhieni - cyn faer a maeres Bro Morgannwg - yn gariadon ers pan yn ifanc a'u bod wedi bod yn briod am 57 mlynedd.

"Roedd cartref fy rhieni yn ganolfan ymgyrchoedd," meddai.

'Tristwch'

"Roedd Mam yn cefnogi Dad ym mhob ffordd yn enwedig pan oedd hi'n Ddirprwy Faeres ac yna'n Faeres yn 1981."

Yn 2004 cafodd Mr Williams a fu hefyd yn ddirprwy arweinydd cyngor Bro Morgannwg ei anrhydeddu â'r MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines am ei wasanaethau i llywodraeth leol a chadwraeth.

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, arweinydd Cyngor Bro Morgannwg ei fod wedi cael sioc ac wedi'i dristhau o glywed am y marwolaethau.

"Roedd Tony yn un a roddodd gyngor a chefnogaeth werthfawr i fi fel cynghorydd newydd di-brofiad.

"Bydd colled ar ôl Tony a Faith ac atgofion melys."